Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ariannu Bargen Twf yn 'gam cyntaf allweddol tuag at ailgodi’n well'

  • Tweet
Thursday, 18 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (18 Mawrth), mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion bod y gyfran gyntaf o gyllid wedi'i rhyddhau o dan Fargen Twf Gogledd Cymru. Dywed Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru y gall symud ymlaen yn awr i osod sylfeini ar gyfer y 14 prosiect "trawsnewidiol" ym Margen Twf Gogledd Cymru. Maen nhw’n cwmpasu bwyd-amaeth a thwristiaeth, ynni, tir ac eiddo, digidol ac arloesedd ym maes gweithgynhyrchu gwerth uchel.

Wrth glywed y newyddion, dywedodd Janet:

"Ni ddylem amau bod hon wedi bod yn flwyddyn ofnadwy o anodd i fusnesau ar draws Aberconwy a rhanbarth ehangach y Gogledd. Ond rwy'n gwybod y bydd llawer yn obeithiol ar gyfer y dyfodol gyda'r newyddion bod y gyfran gyntaf o gyllid wedi'i rhyddhau o dan Fargen Twf Gogledd Cymru.

"Bydd y Fargen yn dod yn gam hanfodol er mwyn i’r Gogledd ailgodi’n well, wrth i'n cymuned geisio adfer ar ôl y pandemig a thrawsnewid ein rhagolygon economaidd. Mae’n wych bod gan y prosiect hwn y potensial i greu hyd at 3,800 o swyddi newydd ac i gefnogi cynnydd o £2.2 biliwn i'r economi.

"Y chwistrelliad hwn, gwerth £16 miliwn, yw'r gyfran gyntaf o gyfraniad cyffredinol o £240 miliwn - £120 miliwn yr un gan lywodraethau'r DU a Chymru. Unwaith eto, mae'r prosiect hwn yn brawf bod Cymru ar ei hennill pan fyddwn yn gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid yn y DU."

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree