Mae Janet Finch-Saunders. Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi datgan ei "chefnogaeth lawn" i'r cynnig deddfwriaethol a gyflwynwyd gan Mr Mark Isherwood, AS, ei chydweithiwr gyda'r Ceidwadwyr Cymreig, mewn perthynas â Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i Gymru.
Mae'r Bil arfaethedig yn ceisio sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl â nam ar eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn ddigonol. Ymhlith y camau gweithredu arfaethedig, mae’r bwriad i sefydlu Grŵp Cynghori Cenedlaethol BSL newydd.
Wrth dynnu sylw at ei chefnogaeth, dywedodd Janet:
“Rydw i'n cytuno'n llwyr â chynnig Mark i gyflwyno gofyniad bod cyrff cyhoeddus yn mynd ati i gynhyrchu ar y cyd a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain er mwyn datblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant, fel modd o wella mynediad at wasanaethau rheng flaen i'r 7,500 o bobl sy'n defnyddio BSL yng Nghymru.
“Mae'n gam cynhwysol rydw i wedi ceisio'i weithredu yn fy swyddfa fy hun, yn enwedig ar ôl i'r Pwyllgor Deisebau gymryd tystiolaeth mor drawiadol gan Deffo!, a oedd yn galw am wella mynediad at wasanaethau mewn BSL fel modd o wella ansawdd bywyd pobl B/byddar o bob oedran
“Yn hollbwysig, mae'r RNID wedi datgan yn glir y byddai Bil BSL yn gweithredu fel llwyfan hanfodol er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau i'r gymuned fyddar a phobl â nam ar eu clyw. Drwy wella'r cymorth a gynigir, bydd yn grymuso pobl i gymryd rhan lawn mewn pethau fel cyflogaeth ac addysg.
“Alla i ddim gweld ffordd well o sicrhau'r cyfle cyfartal hwn na thrwy'r Bil arfaethedig, a thrwy sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol ar gyfer BSL. Mae BSL yn iaith ynddi ei hun ac mae'n haeddu cydnabyddiaeth. Roedd hon yn bleidlais hollbwysig o blaid cynnydd, ac mae'r cynnig yn cael fy nghefnogaeth lawn.”
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
- Pasiwyd Deddf BSL (y Alban) yn 2015, gan nodi cyfnod newydd yn ymgyrch y gymuned fyddar i gydnabod BSL yn gyfreithiol ledled y DU. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi ail-gychwyn gwaith deddfwriaethol rhagarweiniol yn ddiweddar ar Iaith Arwyddion Prydain ac Iwerddon.