Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Blas ar ddanteithion Masnach Deg hyfryd menter leol

  • Tweet
Friday, 4 December, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi ymweld â Chanolfan Masnach Deg Kingdom Krafts yn Llandudno. Daeth ymweliad Mrs Finch-Saunders fel rhan o’i thaith fusnes o’r etholaeth, ar ôl ymweld â mentrau lleol yn Llanrwst a Betws-y-Coed. 

Mae Canolfan Masnach Deg Kingdom Krafts wedi bod ar agor ers 2002. Mae dwy eglwys leol yn Llandudno, Canolfan Gristnogol Emmanuel ac Eglwys Unedig Gloddaeth, yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso gwaith a thwf y siop. Mae dau reolwr rhan-amser, ynghyd â llond llaw o wirfoddolwyr yn rhan o’r tîm.

Gan roi sylwadau ar ei hymweliad, dywedodd Janet:

“Roedd hi’n braf iawn ymweld â’r gwragedd cyfeillgar a chroesawgar yng Nghanolfan Masnach Deg Kingdom Kraft, sy’n enghraifft berffaith o ewyllys da, wrth iddyn nhw barhau i gefnogi’r bobl hynny sy’n byw mewn tlodi. Mae’r ffaith bod eu siop hyfryd yn llawn danteithion hyfryd yn fonws go iawn.

“Hefyd, mae Kingdom Kraft yn enghraifft wych o sut mae mentrau lleol wedi datblygu a ffynnu gydol cyfnodau economaidd anodd, ar ôl arallgyfeirio o werthu llenyddiaeth Gristnogol i gadw  ystod eang o fwyd, rhoddion, offer swyddfa a nwyddau cartref Masnach Deg.

“Rwy’n annog preswylwyr Aberconwy i ddal ati i gefnogi busnesau lleol fel Canolfan Masnach Deg Kingdom Kraft wrth i ni ddal ati i chwarae ein rôl hollbwysig o sicrhau bod y stryd fawr yn goroesi.

“Rydw i wedi clywed bod paned o de neu goffi Masnach Deg, gyda chacen gartref, ar gael wrth i chi bori drwy’r eitemau sydd ar werth. Efallai y byddwch hyd yn oed yn dod ar draws ambell anrheg Nadolig i’r sach!”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion

  • Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Masnach Deg Kingdom Kraft, ffoniwch 01492 877995 neu ewch i www.fairtradeandchristianshop.wales 

 

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree