Yn dilyn datgeliad gan Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i Janet Finch-Saunders AS, na fydd llawdriniaethau arthroplasti dewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am dri i bedwar mis arall o leiaf, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy wedi ymateb yn chwyrn drwy feirniadu’r bwrdd iechyd am “fethu â blaenoriaethu rhai pobl sydd â’r angen clinigol mwyaf am driniaeth”.
Daw’r newyddion y bydd preswylwyr sydd angen llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn gorfod disgwyl o leiaf deuddeg wythnos arall er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi ei fod yn "Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio” ac y bydd “timau clinigol yn edrych ar y bobl sydd â’r angen clinigol mwyaf, ac yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol wrth i bob gwasanaeth ailddechrau”.
Mewn ymdrech i geisio sicrhau triniaeth i unigolion sydd angen llawdriniaeth i osod pen-glin neu glun newydd, mae’r Aelod wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
- Yn dilyn y datgeliad na fydd llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am o leiaf tri i bedwar mis arall, a wnaiff y Gweinidog gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld a ellir lleihau’r oedi?
Gan wneud sylw ar yr oedi cyn y bydd llawdriniaethau i osod cluniau a phen-gliniau newydd yn ailddechrau, meddai Janet:
“Rydw i’n cydnabod bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gorfod parhau i wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod digon o staff a chyfleusterau ar gael i ofalu am y cleifion mwyaf sâl, yn enwedig y rhai sydd angen gofal critigol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae’r bwrdd iechyd yn methu â blaenoriaethu rhai pobl sydd â’r angen clinigol mwyaf am driniaeth.
“Fel llawer o’m hetholwyr, roeddwn i’n falch o ddarllen y cyhoeddiad diweddar fod gofal wedi’i gynllunio yn ailddechrau, ac y bydd timau clinigol yn blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar angen clinigol. Ymddengys nad yw hyn yn wir ar gyfer llawdriniaethau i osod cluniau a phengliniau newydd.
“Ni all fod yn iawn fod y Prif Weithredwr yn fy hysbysu y bydd hyd yn oed preswylwyr sy’n cael eu cydnabod fel blaenoriaeth glinigol yn gorfod disgwyl tri neu bedwar mis arall am lawdriniaeth arthroplasti ddewisol oherwydd nad yw’r gwasanaeth wedi’i drefnu i ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd yn y dyfodol agos.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar frys yr oedi pellach yn Ysbyty Gwynedd a chanfod ateb er mwyn sicrhau nad yw preswylwyr yn gorfod dioddef mwy o boen a gofid”.
DIWEDD
- Ailddechrau gofal wedi'i gynllunio
- Mae Janet wedi cyflwyno’r Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru:
- Yn dilyn y datgeliad na fydd llawdriniaeth arthroplasti ddewisol yn ailddechrau yn Ysbyty Gwynedd am o leiaf tri i bedwar mis arall, a wnaiff y Gweinidog gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld a ellir lleihau’r oedi?