Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Bwrw iddi yn y rhyfel yn erbyn gwastraff plastig yng Nghymru

  • Tweet
Friday, 4 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu’r tâl am fagiau untro yn Lloegr i 10c o Ebrill 2021, mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.

Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid:

“Mae Cymru ar ei hôl hi yn y rhyfel ar wastraff plastig. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chynnig y Ceidwadwyr Cymreig i wahardd plastigau un defnydd, mae modd gwneud mwy.

“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau untro, ond mae angen i ni ddatblygu hyn er mwyn sicrhau gostyngiadau pellach mewn defnydd. Mae angen gweithredu’n bendant yn y rhyfel yn erbyn plastig, felly mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gynyddu’r tâl gorfodol lleiaf o 5c i 10c.

“Gwelodd Llywodraeth y DU fod mwyafrif sylweddol o ymatebwyr o blaid y penderfyniad- 74% o’r cyhoedd a 71% o sefydliadau. Mae momentwm yn Lloegr, a chredaf fod gennym yr un angerdd dros leihau ein dibyniaeth ar fagiau plastig untro a diogelu'r amgylchedd yma yng Nghymru.

“Pam llusgo traed ac oedi? Gall Llywodraeth Cymru fwrw iddi yn hawdd yn y rhyfel yn erbyn gwastraff plastig yng Nghymru”.

DIWEDD

Nodiadau:

  • Bwrw iddi yn y frwydr yn erbyn gwastraff plastig trwy gynyddu’r tâl am fagiau plastig
  • Bagiau siopa untro: ehangu a chynyddu’r tâl
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree