Mewn cwestiwn i Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru heddiw (9 Mehefin), pwysodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, ar y weinyddiaeth ddatganoledig i adolygu'r ffordd yr ymdrinnir ag iechyd meddwl yng Nghymru, gan danlinellu ei dymuniad i weld mynediad at wasanaethau yn gwella drwy gyflwyno gweithiwr iechyd meddwl penodedig ym mhob practis meddyg teulu.
Daw ei chwestiwn wrth i'r Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru, rybuddio y bydd sgil-effeithiau ar iechyd meddwl wrth orfod byw gyda chyflyrau cronig yn dod yn broblem fawr wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd yr Aelod yn cael cyfarfod rhithwir â chynrychiolwyr Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) Cymru i glywed tystiolaeth uniongyrchol o'r rheng flaen ac i drafod sut gellir gwella llwybrau triniaeth.
Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Fel y gwyddom yn iawn, mae pandemig COVID-19 wedi creu hinsawdd lle mae pwysau economaidd ac ynysigrwydd wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn ogystal â diffyg mynediad at rwydweithiau cymdeithasol a'u dulliau arferol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
“O gyfuno'r holl elfennau hyn, mae'r pwysau sydd ar bobl yn sbarduno angen cynyddol am gymorth sy'n llethu mynediad at ofal arbenigol. Gydag arbenigwyr yn rhybuddio y bydd y sgil-effeithiau ar iechyd meddwl wrth fyw gyda chyflyrau cronig yn dod yn nodwedd amlwg yn ein hadferiad, mae'n rhaid i ni fynd ati nawr i ysgogi newid.
“Dyma pam rydw i wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r camau a'r cyllid sydd eu hangen i ddarparu gweithiwr iechyd meddwl penodedig ym mhob practis meddyg teulu ledled Cymru. Byddaf yn cynnal cyfarfod rhithwir gyda RCGP Cymru yn ddiweddarach yr wythnos hon hefyd er mwyn asesu beth arall y gellir ei wneud i wella mynediad at iechyd meddwl yn lleol.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS