Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Byddai gan Borthladd Rhydd Caergybi 'fanteision clir a pharhaol' i Aberconwy

  • Tweet
Friday, 5 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi egluro'r angen i sbarduno twf economaidd ar ôl Brexit drwy annog Llywodraeth Cymru i gefnogi Caergybi fel y dewis blaenllaw i fod yn Borthladd Rhydd yng Nghymru. Daeth yr alwad mewn cwestiynau a ofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol.  

Wrth egluro'r manteision, dywedodd Janet:  

“O Gynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020, mae'n amlwg bod awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ystyried anghenion porthladdoedd unigol. Rydw i bellach yn gofyn i Weinidogion gydweithredu ymhellach â rhanddeiliaid y rhanbarth i gefnogi cynnig Caergybi i fod y dewis blaenllaw i fod yn Borthladd Rhydd yng Nghymru. 

“Ni ellir tanbwysleisio manteision clir a pharhaol y cais hwn. Yn wir, fel yr unig gais yng Nghymru i gynnwys Prifysgol, mae gan y Porthladd Rhydd hwn y potensial i ddenu llu o gyflogwyr newydd mawr, gan ddod â chyflogaeth barhaol a rhoi hwb i'r gadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth cyfan. 

“Dylid manteisio ar y cyfle i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu a hyn ar y cyd â'r newyddion da bod Llywodraeth y DU yn rhoi hwb i Fargen Twf Gogledd Cymru. Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd y Fargen yn derbyn £4.4 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn o 2021/22 am y naw mlynedd sy'n weddill - newyddion gwych sy'n tanlinellu sut mae cydweithredu â San Steffan yn gwneud Cymru'n gryfach.

“Gyda'i gilydd, mae'n amlwg bod momentwm gwirioneddol gan y gefnogaeth ar draws y Gogledd i'r rôl gadarnhaol y gall porthladd rhydd ei gael wrth adfer yn economaidd ar ôl Covid."

Diwedd 

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree