Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Byddai Ymchwiliad Annibynnol i Lifogydd yn “diogelu Conwy rhag bygythiad cynyddol newid yn yr hinsawdd”

  • Tweet
Thursday, 21 January, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn llifogydd difrifol ledled y Gogledd dros y pedair awr ar hugain diwethaf, mae Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi galw eto heddiw ar i Lywodraeth Cymru drefnu ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiadau llifogydd lleol.

Mae Storm Christoph wedi cau ffyrdd lleol a tharfu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae swyddogion wedi rhybuddio trigolion lleol i beidio â gwneud unrhyw deithiau diangen, a allai roi pwysau ychwanegol ar adnoddau prin. Mae rhybudd llifogydd yn parhau mewn grym ar gyfer rhannau o Ddyffryn Conwy ar adeg cyhoeddi.

Mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn ymgyrchydd brwd ynghylch materion llifogydd, ac mae wedi paratoi adroddiadau blynyddol i sicrhau bod newidiadau’n cael eu cyflwyno. Anogodd y weinyddiaeth ddatganoledig hefyd i adolygu effeithiolrwydd adroddiadau A.19 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, gyda therfynau amser statudol wedi’u gosod ar gyhoeddi’r dogfennau ymchwiliol hyn. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu argymhellion hanfodol sydd wedi’u cynllunio i liniaru’r risg o ddigwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

Wrth roi ei sylwadau, dywedodd Janet:

“Yn anffodus, mae Christoph yn storm arall sydd wedi effeithio’n bersonol ar lawer o fy etholwyr. Er fy mod i’n croesawu’r ffaith bod cartrefi Llanrwst wedi osgoi difrod, mae’n drychinebus gweld bod y storm wedi achosi gorbryder i gynifer o drigolion lleol. Rwy’n parhau i fod wrth law i helpu lle bo’n bosibl.

“Rwy’n drist hefyd bod Castell Gwydir, yr atyniad a’r ardd enwog o arwyddocâd hanesyddol yn Nyffryn Conwy, wedi’i daro gan lifogydd difrifol unwaith eto, ar ôl i Stormydd Dennis a Ciara effeithio arno’n wael y llynedd.

“O ganlyniad i hyn, rwyf wedi galw o’r newydd am ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiadau llifogydd lleol cyson, a fyddai’n helpu i sicrhau bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn newid o fod yn adweithiol i fod yn rhagweithiol. Rwy’n annog yr holl drigolion lleol i lofnodi fy neiseb i orfodi camau gweithredu ar y mater pwysig hwn.

“Mae’r llifogydd hyn yn digwydd yn rhy aml o lawer, sy’n dangos yn glir beth yw gwir fygythiad y newid yn yr hinsawdd i drefi a phentrefi Conwy. Gan fod amcanestyniadau gwyddonol yn awgrymu y gall Cymru ddisgwyl digwyddiadau tywydd eithafol yn amlach, mae’n rhaid i ni ddiogelu ein trigolion agored i niwed yn well.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am ei hymrwymiad i ymgysylltu’n rhagweithiol â’r gymuned fel ffordd o ddatblygu strategaethau atal llifogydd lleol, rwy’n ei hannog i adolygu a gweithredu’r cynigion yr wyf wedi’u cyflwyno sawl gwaith. Mae’n bryd gweithredu – rŵan.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

· Mae hyn yn rhan o ymgyrch hir ar lifogydd yng Nghymru. Gallwch weld rhagor o wybodaeth drwy fynd i www.janetfinchsaunders.org.uk. Mae’n cynnwys galwadau Janet am amserlenni statudol i helpu gydag adroddiadau ar lifogydd yn y dyfodol, y gellir eu darllen yma.

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree