Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn beirniadu Llywodraeth Cymru am Drin Busnesau’n Annheg.

  • Tweet
Monday, 12 October, 2020
Betws y Coed

Wrth i ni weld busnesau yn wynebu anawsterau difrifol yn sgil y cyfyngiadau symud yng Nghymru a pherchnogion yn llawn emosiwn o ganlyniad i chwalfa ariannol, mae Janet Finch-Saunders AS, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am drin busnesau’n annheg.

Mae beirniadaeth y Cadeirydd yn dilyn oedi gydag agor y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, a Llywodraeth Cymru’n gorfodi busnesau i ymuno ag undebau.Ar 25 Medi 2020, ysgrifennodd Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd at berchnogion busnes yn honni:

  •  y dylai pob cyflogwr ystyried undebau llafur fel partneriaid;
  • ac “Wrth dderbyn y grant roedd disgwyl i chi gyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Contract Economaidd”.

Gan gyfeirio at gais Llywodraeth Cymru y dylai busnesau ymuno ag undeb, dywedodd y Cadeirydd:

“Mae’r busnesau yn y rhannau hynny o Gymru sydd â chyfyngiadau symud yng nghanol argyfwng ariannol. Er enghraifft, yn fy nhref fy hun, mae rhai yn y sector lletygarwch a manwerthu wedi gwneud cyn lleied â £6.50 mewn diwrnod, tra mae rhai eraill wedi cau yn y gobaith o oroesi tan y gwanwyn.

“Rheoliadau Llywodraeth Cymru sydd wedi achosi’r argyfwng ariannol hwn, ac felly mae’n gwbl hanfodol eu bod yn darparu cymorth sydd yn gymesur â’r difrod sy’n cael ei achosi.

“Yn hytrach na chanolbwyntio ar y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol a bwrw iddi, mae Ken Skates wedi gwneud camgymeriad mawr.

“Wrth geisio creu iwtopia sosialaidd, mae wedi bod yn hunanol iawn ac wedi cyflwyno llythyr yn annog busnesau i gydweithredu ag undebau. Yn ystod yr argyfwng hwn, y camau gorau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi gweithwyr yw gweithio er mwyn ceisio achub swyddi. Ni fydd hynny’n bosibl oni bai bod cymorth cymesur yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru ac os yw’r cyfyngiadau economaidd cael eu codi”.  

DIWEDD

Dogfen:

  • Llythyr gan y Gweinidog

Attachments

Attachment Size
Llythyr gan y Gweinidog 270.34 KB
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree