Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi croesawu canfyddiadau arolwg newydd a ganfu fod cig oen Cymru wedi cael ymateb cadarnhaol o ran canfyddiadau defnyddwyr o'i rinweddau amgylcheddol a'i ddulliau ffermio.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i arolwg Hybu Cig Cymru yn cytuno bod ŵyn a fagwyd yng Nghymru yn cael eu bwydo ar laswellt yn bennaf ac yn crwydro'n rhydd ar ffermydd teuluol bach, gan dynnu sylw at y ffaith bod y sector yn system gynhyrchu sy'n seiliedig ar dir pori ac yn system nad yw'n ddwys.
Wrth sôn am yr arolwg, dywedodd Janet:
“Mae'n galonogol iawn gweld bod defnyddwyr yn cydnabod rhinweddau cynaliadwy yn y maes ffermio cig oen yng Nghymru, gan anwybyddu'r sylw negyddol er mwyn sicrhau bod y cynnyrch deinamig ac eiconig hwn yn parhau i fod yn rhan o'r hyn a roddir ar fwrdd y gegin.
“Mae Cymru'n parhau i fod yn arloeswr ac yn arweinydd byd-eang mewn dulliau ffermio sy'n sensitif i'r amgylchedd ac, o ystyried bod arolygon diweddar yn dangos y byddai defnyddwyr yn talu hyd at 12% yn fwy am fwyd a gynhyrchir yn gynaliadwy, dylai'r canlyniadau diweddaraf hyn fod yn gymhelliant gwirioneddol i'r sector er mwyn iddo fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.
“Er gwaethaf y ffaith bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod â rhan yn y diwydiant yn ddiweddar, rydw i'n sicr y dylai'r gefnogaeth i fwyd cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol fod yn allweddol yn ein hymdrechion i wrthdroi'r newid yn yr hinsawdd. Gan mai ffermio yw asgwrn cefn economi Cymru, yn enwedig ymhlith fy nghymunedau gwledig lleol i, rydw i'n gobeithio gweld gwaith yn cael ei wneud i fanteisio ar ganlyniadau cadarnhaol yr arolwg hwn.”
Wrth barhau â'i gweithgareddau i nodi Wythnos Hinsawdd Cymru 2021, bydd Mrs Finch-Saunders yn cyfarfod â chynrychiolwyr y sector i drafod ymhellach sut gellir cyfleu yn well rinweddau gwyrdd amlwg ffermwyr Cymru i farchnadoedd domestig a rhyngwladol.
DIWEDD
Ffotograff: gan Richard Bell ar Unsplash