Llun:Janet Finch-Saunders AS yn annerch cyfarfod cyhoeddus yng Ngwesty'r Eryrod ym mis Chwefror 2020 (cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19.)
Heddiw (09 Rhagfyr), mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol 'cydweithrediad cadarnhaol' RWE Renewables UK yn eu gwaith i unioni problemau gyda'r system ffrydiau neu ddyfrffosydd leol, wrth iddi barhau â'i hymgyrch i fynd i'r afael â phryderon llifogydd Dyffryn Conwy.
Daeth adroddiad llifogydd diweddar, a luniwyd gan Mrs Finch-Saunders yn dilyn Storm Ciara, i'r casgliad y gallai fod cyfle i storio dŵr yn y mynyddoedd, megis cronfeydd dŵr Capel Curig ac uwchben Dolgarrog. Hefyd, gwelodd fod gwaith diweddar ar y nentydd rhwng Cowlyd a Chapel Curig wedi arwain yn anfwriadol at ddŵr yn llifo oddi ar y mynyddoedd. Roedd y dŵr hwn yn aml yn mynd i Ddyffryn Conwy drwy Gapel Curig, yn hytrach na Dolgarrog.
Wrth sôn am y diweddariad, dywedodd Janet:
“I drigolion Dyffryn Conwy, bydd y newyddion hwn am gydweithrediad cadarnhaol RWE Renewables UK yn rhoi rhywfaint o ryddhad, cyn misoedd gwlyb y gaeaf. Yn dilyn pryderon a godwyd gan fy adroddiad llifogydd yn sgil Storm Ciara, roedd yn hanfodol bod cynllun gweithredu uniongyrchol a hirdymor yn cael ei roi ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dan sylw.
“Fel yr amlinellwyd yn fy adroddiad ar lifogydd 2020, nododd archwiliad sifil diweddar wendid yn strwythur ffrydiau lleol a oedd yn golygu bod angen dargyfeirio dŵr i ffwrdd o'r system yn ystod cyfnodau o law trwm. O ganlyniad, mae'n bosibl bod dŵr yn aml yn llifo i Ddyffryn Conwy drwy Gapel Curig, yn hytrach na Dolgarrog.
“Yn eu llythyr diweddaru eang yr wythnos hon, mae RWE wedi cadarnhau bod gwaith trwsio arfaethedig i'r system ffrydio bellach wedi dechrau, a bod gwaith cynnal a chadw sylweddol ar y gweill dros fisoedd yr haf am y 3 blynedd nesaf. Mae hwn yn gam ardderchog ymlaen.
“Yn ogystal â thocio a thorri'r llystyfiant cyfagos, mae RWE wedi dweud y byddant yn gwella mynedfeydd cynnal a chadw hefyd er mwyn sicrhau'r cyfraddau llif gorau posibl a bod cymaint ag sy'n bosibl o ddŵr yn cael ei drosglwyddo i Cowlyd i'w storio. Dyma ganlyniad trafodaethau traws-sefydliad gyda Dŵr Cymru; ymateb rhagweithiol a gaiff ei groesawu'n fawr iawn.
“Er bod y cynllun gweithredu uniongyrchol hwn ar gyfer y system ffrydiau yn gam gwych ymlaen, rwyf hefyd yn croesawu'r newyddion bod astudiaeth fodelu hirdymor yn cael ei chynnal i ystyried cynnig fy adroddiad i gynyddu gallu Llyn Eigiau.
“Bydd trafodaethau pellach ynghylch buddioldeb a hyfywedd y cam hwn yn digwydd yn y flwyddyn newydd, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i etholwyr am y datblygiadau pwysig hyn. Mae'r gwaith hwn yn brawf o'r ffaith y gallai camau gweithredu gan grwpiau lleol ymroddedig, fel ein cyfarfodydd yng Ngwesty'r Eryrod Llanrwst, arwain at gamau blaengar ymlaen sy'n diogelu tiroedd a chartrefi.”
DIWEDD