Mewn ymweliad â Gerddi enwog Bodnant ger Tal-y-Cafn yng Nghonwy, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi canmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’u hymdrechion lleol cydweithredol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a phlannu mwy o goed.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud ei bod wedi ymrwymo i gyfrannu tuag at helpu i adfer a diogelu ein hamgylchedd naturiol a mynd i’r afael â newid hinsawdd, gydag uchelgeisiau i sicrhau Cymru gwbl ddi-garbon erbyn 2030 a cheisio adfer 4,600 hectar o gynefinoedd blaenoriaeth erbyn 2025. Mae oddeutu 80% o anghenion ynni'r Ymddiriedolaeth yng Nghymru bellach yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy.
Meddai Rhys Thomas, Rheolwr Cyffredinol Gerddi Bodnant:
“Roedd hi’n braf iawn croesawu Janet i Erddi Bodnant er mwyn iddi wybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud dros natur, gan wneud ein rhan yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, cefnogi mynediad i ymwelwyr a gwarchod un o erddi pwysicaf Ewrop.”
Gan roi sylwadau ar yr ymweliad, meddai Janet:
“Mae Bodnant yn gartref i bum Casgliad Cenedlaethol ac mae yno nifer o goed arbennig iawn felly roedd yn lleoliad delfrydol i drafod y rôl y gall yr Ymddiriedolaeth ei chwarae wrth fynd i’r afael â risgiau Newid Hinsawdd, fel llifogydd, trwy weithio mewn partneriaeth â ffermwyr sy’n denantiaid, cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a chynyddu gorchudd coed yn strategol.
“Mae’r Ymddiriedolaeth yn bartner allweddol yn y gwaith hwn yn lleol, gan gydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect Conwy Uchaf sy’n ceisio cynorthwyo i storio llifddwr yn yr ucheldir gan arafu llif y dŵr drwy adfer rhostiroedd. Mae’r gwaith cywiro hanfodol hwn yn cynnwys llenwi ffosydd ac adfer afonydd.
“Rwy’n falch i weld yr Ymddiriedolaeth yn arwain yn feiddgar yr ymdrech i fynd i’r afael ag allyriadau diangen, gyda’u paneli ffotofoltaidd 175 ar y llechwedd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru caffi’r Pafiliwn, dau bwynt gwefru ar gyfer cerbydau trydan ac offer pŵer batri’r garddwyr.
“Er yn gam bach, mae newid i offer sy’n cael eu pweru gan fatri, sy’n ysgafnach ac yn lanach i’r garddwyr eu defnyddio, yn gam bach a all gael effaith fuddiol a phwysig ar yr amgylchedd. Rwy’n gobeithio gweld y newid hwn yn digwydd mewn mannau eraill hefyd, o ystyried llwyddiant Bodnant.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw’r tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru sy’n gofalu am 46,000 hectar o dir, 157 milltir o forlin a 18 o gestyll, tai, gerddi a safleoedd diwylliannol gorau’r genedl.
- Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi tîm o 41 aelod o staff yng Ngerddi Bodnant, gyda chefnogaeth tîm o wirfoddolwyr sy’n cyflawni rolau amrywiol ledled y safle. Mae dros 250,000 o ymwelwyr yn dod i’r gerddi bob blwyddyn, ac yn cael gofal Tîm Croeso ymroddedig. Mae 25 garddwr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y gerddi’n cael eu cynnal i’r safonau uchaf posibl.