Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth 2021, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol gwaith amgylcheddol cymunedol Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, yn dilyn ei phresenoldeb mewn digwyddiad dathlu canmlwyddiant yn Happy Valley. Yn y digwyddiad, aeth Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno ati i blannu dwy goeden, cysegru mainc a chladdu capsiwl amser.
Fel mudiad gwirfoddol byd-eang, mae’r Soroptimyddion Rhyngwladol wedi gweithio'n ddiflino i drawsnewid bywydau menywod a merched ledled y byd, gyda bron i 72,000 o aelodau mewn 121 o wledydd. Mae'n sefydliad sy’n ystyried cymuned yn bwysig ac mae’n darparu cyfleoedd i wirfoddoli, cyfarfod ag unigolion o'r un anian a gwneud gwahaniaeth.
Mae clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno yn perthyn i ranbarth Swydd Gaer, Gogledd Cymru a Chilgwri. Un o'r prosiectau rhanbarthol yw casglu topiau poteli plastig i'w hailgylchu er budd yr amgylchedd.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Llongyfarchiadau i bawb yn y sefydliad, wrth i ni bwyso a mesur yr hyn mae'r sefydliad gwych hwn wedi'i gyflawni ledled y byd dros y 100 mlynedd diwethaf.
“Ym mlwyddyn y canmlwyddiant, mae'n fendigedig cael bod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn yn Happy Valley gyda Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno drwy blannu rhywbeth a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol - gan wreiddio i ddiogelu ein hamgylchedd a hwyluso'r gwaith o ddarparu aer glân.
“Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y bydd y coed rydyn ni'n eu plannu nawr yn pennu tymheredd ein trefi a'n dinasoedd yn y ganrif nesaf. Drwy gynyddu cyfraddau plannu trefol, gallwn ni wrthweithio'r tymereddau sy'n gysylltiedig â'r strwythurau tarmac a choncrit presennol. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r rhai sy'n bresennol am y gwaith blaengar hwn.
“Mae cael mainc – a gynhyrchwyd gan y cwmni mae'r grŵp yn rhoi eu topiau poteli iddo – yn ymyl y coed hyn yn tanlinellu'r budd i'n cymuned. Rwy'n gobeithio y bydd y gofod hwn yn rhoi lle myfyriol, cymunedol i lawer mwy o fenywod a merched gyfarfod â'u hanwyliaid.”
Am y tro cyntaf ers 1975, bwriad Soroptimyddion Rhyngwladol Prydain Fawr ac Iwerddon oedd cynnal eu Cynhadledd yn nhref arfordirol Llandudno. Oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd, er bod y digwyddiad bellach wedi symud ar-lein, mae'r grŵp lleol yn dal i geisio dod â hyfrydwch Llandudno i fenywod ledled y wlad.
DIWEDD
Ffotograff 1: Janet Finch-Saunders AS gyda Llywydd clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, Janet Murfin.
Ffotograff 2: Janet Finch-Saunders AS mewn ffotograff grŵp yn cynnwys Maer Llandudno, y Cynghorydd Harry Saville, Mr Mark Isherwood AS, Mr Sam Rowlands AS, Mr Robin Millar AS, y Cynghorydd Greg Robbins, y Cynghorydd Louise Emery a Llywydd clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, Janet Murfin.