I nodi Wythnos Ambiwlans Awyr 2021, mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol “gwaith caled ac ymroddiad” yr unigolion sy’n cyfrannu at gynnal Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Cynhelir y fenter ledled y DU rhwng 6 a 12 Medi 2021 ac mae’n cynnig cyfle i hyrwyddo’r gwaith achub bywyd o fewn yr ardaloedd lle maent yn gweithredu.
Yn dathlu gwaith yr Ambiwlans Awyr, dywedodd Janet:
“Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol mewn hofrennydd, yn rhad ac am ddim, ac mae’n achub bywydau pobl yng Nghymru sydd â salwch neu anafiadau difrifol. Mae’r ffaith bod y tîm yn gallu cyrraedd claf difrifol wael yn unrhyw leoliad yng Nghymru o fewn 20 munud i dderbyn galwad yn brawf o’u gwaith caled a’u hymroddiad.
“Mae’r criwiau’n cynnig gofal brys uwch yn lleoliad y damweiniau, o’r un safon â gofal mewn adran damweiniau brys, ac maent yn cludo cleifion yn gyflym i ofal meddygol arbenigol ledled Cymru. Gall fod yn rhy hawdd anghofio mai sefydliad elusennol yw hwn sy’n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd.
“Wrth i ni ddathlu Wythnos Ambiwlans Awyr 2021, hoffwn ddiolch o galon i’r criwiau, y rhai sy’n codi arian a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith meddygol hollbwysig hwn yn bosibl. I breswylwyr ledled Aberconwy, rwy’n eich annog i ddysgu mwy am waith y gwasanaeth a phwyso a mesur sut gallwch chi gefnogi’r achos.”
DIWEDD