Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Codwch eich lleisiau i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal”, meddai AS

  • Tweet
Tuesday, 2 June, 2020
Older People's Champion

Heddiw (2 Mehefin), erfyniodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - ar aelodau’r cyhoedd ac aelodau staff gofal cymdeithasol rheng flaen i ddweud eu dweud ar sut gall cartrefi gofal alluogi teuluoedd i ymweld yn ddiogel.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddrafftio canllawiau newydd i helpu i gefnogi cartrefi gofal er mwyn galluogi mynediad mor ddiogel â phosibl i’w preswylwyr. Maen nhw wedi agor ffurflen gyswllt ddigidol i glywed gan ddarparwyr gofal ac aelodau’r cyhoedd am y ffordd orau o lacio cyfyngiadau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Yn siarad am yr alwad am syniadau, dywedodd Janet:

“Wrth i’r sylw symud yn anochel nawr at lacio cyfyngiadau wrth i ni droedio’r llwybr at adfer pethau, mae’n hanfodol bod diogelu staff gofal cymdeithasol a phreswylwyr cartrefi gofal yn parhau’n ganolog mewn unrhyw newidiadau sydd ar y gweill.

“Felly, rwy’n croesawu’r camau y mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi’u cymryd i sicrhau bod lleisiau’r cyhoedd a staff rheng flaen yn cael eu clywed wrth ddrafftio’r canllawiau newydd.

“Gydol y pandemig hwn, rydw i wedi tynnu sylw’n gyson at bryderon y cyhoedd drwy annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi ein cartrefi gofal. Rydw i wedi erfyn ar Weinidogion Cymru i gyflwyno profion mwy eang i bob preswylydd ac wedi gofyn am gymorth ariannol i helpu cartrefi sydd mewn trafferthion.

“Dyma gyfle heb ei ail i’r cyhoedd sicrhau eu bod yn cael eu clywed unwaith eto. Rwy’n galw ar bwy bynnag sydd â buddiant yn system ofal Cymru - boed yn staff neu’n deulu neu’n breswylwyr, i roi munud neu ddau i leisio eu barn a rhannu eu syniadau ag Arolygiaeth Gofal Cymru.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Gall pobl gofrestru eu safbwyntiau yn: https://arolygiaethgofal.cymru/200529-rydym-yn-croesawu-eich-syniadau-a…
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree