Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Colli swyddi yn sgil ‘polisi esgeulus’ Llywodraeth Cymru ar ogofâu arddangos

  • Tweet
Tuesday, 21 July, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (21 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru i erfyn am ailagor ogofâu arddangos y genedl.

Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof yw un o’r arddangosfeydd mwyaf o’i bath yn y DU, gyda dros 16km o lwybrau. Canolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru yw un o brif atyniadau Cymru ac mae’n ddarparwr swyddi pwysig i’r rhanbarth.

Yn rhoi sylwadau ar ei llythyr at y Dirprwy Weinidog, dywedodd Janet:

 “Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wrthdroi eu polisi esgeulus sydd wedi cau drysau ein hogofâu arddangos. Mae’r rhyfeddodau naturiol hyn eisoes wedi cael ailagor ym mhob rhan arall o’r Deyrnas Unedig, ar ôl pennu eu bod yn ddiogel.

“Nid yw ogofâu arddangos fel pyllau glo, mwyngloddiau copr, mwyngloddiau plwm neu chwareli llechi.  Maen nhw’n gwbl naturiol ac mae ganddyn nhw geryntau aer sy’n cael eu cylchredu’n barhaus a’u hawyru drwy systemau uniadau naturiol y calch.

“Fel rydw i wedi’i egluro dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru, bydd canslo archebion gan grwpiau teithio i atyniadau sydd mor bwysig yng Nghymru yn cael effaith niweidiol ar sector twristiaeth Cymru gyfan.

“Mae gwrthodiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ogofâu arddangos ailagor eisoes wedi cyfrannu at golli dros ddeugain o swyddi, gyda chwestiynau’n cael eu codi am ddyfodol y Ganolfan ymwelwyr bwysig hon. Mae angen diddymu’r polisi ar unwaith os yw’r lleoliad hollbwysig hwn i oroesi.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree