Aberconwy yw calon y sector twristiaeth yng Nghymru. O frenhines trefi gwyliau Cymru i’r porth i Eryri, rydym yn ffodus i gael atyniadau a llety sy’n gwneud ein hardal mor ddeniadol i ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Yn wir, mae Sir Conwy yn denu tua 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, sy’n cynhyrchu £900 miliwn.
Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn eisoes y flwyddyn ariannol hon. Mae Covid-19 wedi cau’r sector yn llwyr. I roi hyn mewn cyd-destun, mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi gweld 1,403,300 o weithwyr yn y diwydiant gwasanaethau bwyd a llety yn cael eu rhoi ar ffyrlo.
Mae Llywodraeth y DU wedi talu £2,595,000 i gefnogi’r gweithwyr a’r busnesau a oedd yn wynebu ansicrwydd heb unrhyw fai yn y byd arnyn nhw. Yma yn Aberconwy, mae 7,200 o weithwyr ar ffyrlo, felly gallaf eich sicrhau fy mod i’n ymrwymedig i geisio helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau cadarnhaol a allai helpu i gyfyngu ar y trafferthion economaidd difrifol yr ydym yn eu hwynebu, a’r risg o gynnydd mewn diweithdra’n lleol.
Fel y mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi’i wybod ers dechrau Mai, Conwy yw’r brif ardal yng Nghymru ac un o’r ugain uchaf yn y DU gyda’r ganran uchaf o swyddi mewn perygl – ac mae ar yr un lefel â Chernyw, Sir Benfro ac Ynys Wyth. Ysgrifennais ato gan nodi’n glir bod adroddiad gan y Ganolfan Drefi wedi canfod bod cau gwestai, llety gwely a brecwast, gwersylloedd a pharciau carafanau yn cael effaith heb ei hail ar drefi fel Llandudno a’r Rhyl.
Mewn ymdrech i helpu rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y sector a Gweinidogion Llywodraeth Cymru; wedi cynnig gwelliannau i ddadl
ddiweddar ar yr economi yn y Senedd; wedi gofyn llu o gwestiynau llafar yn ystod y sesiwn lawn; wedi cymryd camau i alw am gyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau; rhaglen gryfach a thecach o gymorth ariannol sy’n targedu’r sectorau yn y perygl mwyaf; ac eglurder i’r sector twristiaeth ynghylch pryd y gall ailagor i fusnes.
O’r diwedd, cawsom lygedyn o obaith ddydd Gwener diwethaf wrth i’r Prif Weinidog gyhoeddi y dylai perchnogion llety hunangynhaliol ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i baratoi i ailagor. Yn ogystal, bwriedir cynnal trafodaethau gyda’r sector lletygarwch am y posibilrwydd o ailagor tafarnau, caffis a bwytai yn raddol, tra’n cadw pellter cymdeithasol llym.
Mae hwn yn gam i’w groesawu, un a fydd yn helpu’n hardal i achub yr hyn sy’n weddill o’r tymor prysur yn ein sector twristiaeth lleol. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod cwestiynau a phroblemau difrifol yn dal i fodoli. Er enghraifft, yn ôl arolwg gan Twristiaeth Gogledd Cymru, gwelwyd y gallai 10,500 o swyddi gael eu colli o hyd, hyd yn oed os bydd busnesau’n cael agor ar 1 Gorffennaf – 25% o bawb sydd wedi’u cyflogi yn y sector yma yn y Gogledd!
Rwy’n ymrwymedig i weithio er lles gorau’n hardal a’r diwydiant twristiaeth, ac yn bwriadu craffu ar y Prif Weinidog ar hyn yr wythnos hon