Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cefnogi cynllun y Ceidwadwyr Cymreig

  • Tweet
Wednesday, 17 January, 2018
Older people's champion

Mae un o swyddogion Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu addewid maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig i greu deddfau sy'n gwarantu hawliau pobl hŷn.

 

 

Mewn datganiad dywedodd y Comisiynydd, Sarah Rochira, mae’r ‘ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau’ y bod hawliau pobl hyn cael eu gwarantu ydi ‘trwy deddfwriaeth a fasa’n creu dyletswyddau penodol i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn’

 

Yn ogystal â hyn, mae hi wedi mynd ymhellach, drwy alw am Siarter Pobl Hŷn i amddiffyn hawliau nes y bydd deddfwriaeth yn cael ei basio.

 

Mae hyn yn cyfateb efo addewid maniffesto 2016 y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno Mesur Pobl Hŷn yng Nghymru i ‘ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hyn a sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cysidro eu hanghenion wrth ddod i benderfyniadau’

 

Yn flaenorol, mae’r parti wedi galw am y Comisiynydd i fod yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na Llywodraeth Cymru – fasa hyn yn fwy tebygol o ddigwydd petai deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno.

 

Dywedodd Janet Finch-Saunders, Pencampwraig Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig:

 

“Rwyf yn falch iawn bod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cefnogi deddfwriaeth sydd yn ymroddedig i amddiffyn hawliau pobl hyn.

 

“Rydym wedi bod yn galw am Fesur Pobl Hŷn ers tro, ac rydym yn credu’n gryf y dylai bod deddfwriaeth yn cael ei gysidro am ei effaith ar fywydau dinasyddion hŷn.

 

“Mwy na dim, rydym eisiau’r comisiynydd i fod yn atebol i'r Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru, i ganiatáu craffu trawsbleidiol priodol.

 

“Fasa Mesur Pobl Hŷn yn creu cyfle i weld hyn yn digwydd”.

 

Nodiadau:

Tra oedd Darren Millar yn Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd, llwyddodd i ddiwygio'r ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn sicrhau bod unrhyw berson efo dyletswyddau yn ôl y ddeddf yn ystyried egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.

  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree