Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: AC Aberconwy yn sicrhau bod Airbnb yn cymryd camau cadarnhaol

  • Tweet
Thursday, 9 April, 2020
Llanrwst Bridge

Yn dilyn galwadau gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, i hwyluswyr twristiaeth ar-lein atal archebion gan bobl sydd eisiau dod yma ar eu gwyliau yn ystod yr argyfwng COVID-19, mae Airbnb wedi cymryd camau cadarnhaol.

Ar ôl clywed gan Reolwr Polisi Cyhoeddus Airbnb yn y DU ac Iwerddon, mae Aelod Cynulliad Aberconwy bellach yn deall:

  • O 9am heddiw (9/04/2020) ni fydd yn bosibl archebu arhosiad ar Airbnb yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud;
  • Ni fydd yn bosibl archebu arhosiad yn y Deyrnas Unedig sy’n dechrau ar neu cyn 18 Ebrill 2020 (bydd y dyddiad hwn yn cael ei adolygu);
  • Maent wedi e-bostio pob gwestai sydd eisoes ag archebion, gan dynnu sylw at ganllawiau’r llywodraeth a dweud wrthynt am beidio â theithio oni bai bod hynny’n hanfodol;
  • Mae gwesteion sydd ag archebion a wnaed cyn 14 Mawrth ar gyfer dyddiadau rhwng 14 Mawrth a 31 Mai yn gallu hawlio ad-daliad llawn drwy’r polisi canslo;
  • Os mynegir pryderon gydag Airbnb am westeion yn ein cymuned sydd dan amheuaeth o dorri’r rheoliadau argyfwng presennol, bydd Airbnb yn cadarnhau gyda’r gwesteion bod yr arhosiad at ddiben hanfodol.
  • Ni fydd arosiadau a wneir fel rhan o’r rhaglen Arosiadau Rheng Flaen - arosiadau am ddim i weithwyr y GIG a staff meddygol eraill - nac arosiadau sy’n cael eu talu neu’n cael cymhorthdal ar gyfer arosiadau hanfodol eraill a gweithwyr allweddol yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn.

Wrth roi sylwadau ar ôl cael ei hysbysu o’r newid pwysig gan Airbnb, dywedodd Janet:

“Hoffwn ddiolch i Airbnb am wrando ar y pryderon niferus a fynegwyd gennyf i ac unigolion ledled Cymru.

“Er y byddwn i wedi hoffi gweld mesurau heddiw yn cael eu cyflwyno yn gynt, rwy’n falch iawn na fydd yn bosibl bellach archebu arhosiad gydag Airbnb yn ystod y cyfnod presennol o gyfyngiadau symud.

“Yn hanesyddol, mae Gwyliau’r Pasg yn un o adegau prysuraf y sector twristiaeth yn Aberconwy, gyda miloedd yn dewis archwilio a mwynhau’r ardal syfrdanol. Fodd bynnag, ddim eleni.

“I ddiogelu pobl fregus a’n sector iechyd a gofal, mae’n rhaid i ymwelwyr gadw draw ac aros yn eu hardaloedd eu hunain.

“Mae penderfyniad Airbnb yn hwb mawr i ddyhead Cymru gyfan i ymwelwyr ddod yn ôl rhywbryd eto.

“Dylai fod llai o gyfle nawr hyd yn oed i unigolion anwybyddu cyngor arbenigwyr drwy ddod i’r Gogledd”.

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree