Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: Angen gweithredu i ddiogelu pobl hŷn a gweithwyr mewn cartrefi gofal yng Nghymru

  • Tweet
Wednesday, 15 April, 2020
OPCW Logo - Statement from Heléna Herklots CBE

Datganiad gan Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae pobl hŷn a’u teuluoedd yn dal i godi pryderon ynghylch y materion sy’n wynebu cartrefi gofal ar hyn o bryd, fel mynediad at driniaethau a gwasanaethau’r GIG, profion ar gyfer staff a thrigolion a faint o gyfarpar diogelwch personol hanfodol sydd ar gael. Mae’n gyfnod eithriadol o bryderus i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a’u ffrindiau a’u teuluoedd. Mae hi’n hanfodol bod rhagor yn cael ei wneud i ddiogelu pobl hŷn ac i gefnogi’r rheini sy’n gweithio gyda nhw.

“Rwyf felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:

  • Cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddarparu’n effeithiol ac yn gyson i gartrefi gofal a bod ganddynt ddigon o ddeunyddiau eraill i reoli’r haint fel hylif diheintio dwylo;
  • Profion ar gael i drigolion sy’n dangos symptomau Covid-19 er mwyn i staff gofal ac eraill allu darparu gofal a thriniaeth briodol yn ddiogel;
  • Trigolion yn gallu cael gafael ar wasanaethau a thriniaethau’r GIG sydd eu hangen arnyn nhw (gan gynnwys ar gyfer Covid-19) ac nad oes unrhyw bolisïau cyffredinol yn cael eu rhoi ar waith sy’n golygu na fyddai trigolion cartrefi gofal yn cael triniaeth mewn ysbyty os bydd eu cyflwr yn cyfiawnhau hynny;
  • Pob cartref gofal yn gallu cael gafael ar gefnogaeth ac arweiniad gofal iechyd yn gyflym, gan gynnwys unrhyw angen am hyfforddiant, er enghraifft ar reoli haint;
  • Yr holl staff sydd ar gael yn gallu gweithio drwy sicrhau profion i staff a allai fod yn hunanynysu oherwydd symptomau sydd ganddyn nhw, neu aelodau eraill o’u haelwyd;
  • Cyllid brys yn cyrraedd cartrefi gofal yn gyflym i dalu am gostau uwch staff asiantaeth i lenwi bylchau, i ddiwallu’r anghenion a allai godi ar gyfer lefelau staffio uwch, ac i dalu am gostau ychwanegol fel rheoli haint; a
  • Gwybodaeth yn cael ei chofnodi a’i chyhoeddi am lefelau’r haint a marwolaethau, er mwyn cael tryloywder ac er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail data, gan gynnwys penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau.

“Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu penodol ar frys sy’n nodi’r hyn a fydd yn cael ei wneud i ddiogelu pobl hŷn a gweithwyr gofal a lleihau lledaeniad Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ar sail y mesurau uchod.

“Gan fod amheuaeth bellach fod achosion o’r coronafeirws mewn bron i un rhan o dair o gartrefi gofal Cymru, mae angen gweithredu ar unwaith neu bydd pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn agored iawn i’r feirws hwn, gan roi eu bywydau a bywydau staff cartrefi gofal mewn perygl.

“Carwn ddiolch i staff cartrefi gofal ar draws y wlad am eu holl waith hanfodol, a chymaint ohono’n cael ei wneud heb sylw, i gefnogi pobl hŷn yn y cyfnod anodd hwn wrth iddynt wynebu mwy o bwysau nag erioed.

“I sicrhau bod y gefnogaeth hanfodol hon yn gallu parhau, mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain ac yn gweithredu’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’r bobl sy’n gofalu amdanynt, yn cael y gefnogaeth a’r cyfarpar sydd eu hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel ac yn iach.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree