Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: Angen ymdrech ‘uchelgeisiol’ i gefnogi ffermwyr llaeth Cymru, meddai AC Aberconwy

  • Tweet
Tuesday, 21 April, 2020
Janet Finch-Saunders during a Farm Visit

Heddiw (21 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC (Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru) yn erfyn am ymdrech ‘uchelgeisiol’ gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr llaeth y wlad, sy’n wynebu anawsterau yn sgil y pandemig COVID-19 byd-eang.

Daw ei galwadau mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar ddiwydiant llaeth Cymru, wrth i nifer y cynhyrchwyr llaeth yng Nghymru barhau i leihau. Yn ôl ystadegau diweddar gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae Gogledd Cymru wedi colli 10 o gyflenwyr rhwng mis Ebrill 2019 a 2020.

Ymysg yr awgrymiadau a amlinellir yn ei llythyr agored, mae Mrs Finch-Saunders wedi gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ystyried:

  • Darparu mynediad at y Gronfa Cadernid Economaidd i bawb yn y sector amaethyddol sydd wedi’u heffeithio gan effaith coronafeirws ar y farchnad.
  • Archwilio contractau caffael cyhoeddus i sicrhau bod y GIG, y fyddin a charchardai yn defnyddio llaeth ffres o Gymru.
  • Pwyso a mesur y posibilrwydd i’r sector cyhoeddus brynu mwy o laeth at ddefnydd unigolion sy’n derbyn cymorth y Wladwriaeth, fel cleifion ysbytai, y digartref a phlant gweithwyr allweddol.
  • Cynorthwyo i reoli llif llaeth drwy’r gadwyn gyflenwi.

Wrth roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Mae’n dorcalonnus clywed am ffermwyr yn gorfod taflu llaeth i ffwrdd a cholli eu bywoliaeth.

“Credaf fod mwy o angen nag erioed i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a bod yn uchelgeisiol yn ei hymdrechion i helpu i arbed y sector llaeth rhag dirywio ymhellach.

“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i archwilio contractau caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau bod ein GIG, ein milwyr a charchardai yn defnyddio llaeth ffres o Gymru. Dylem hefyd bwyso a mesur y posibilrwydd i’r sector cyhoeddus brynu mwy o laeth at ddefnydd cleifion ysbyty, y digartref a phlant gweithwyr allweddol.

“Trwy gefnogi ffermwyr llaeth, rydych chi’n cefnogi ein cymunedol gwledig. Mae eu rôl nhw fel contractwyr a darparwyr swyddi yng nghefn gwlad yn rhy bwysig i’w hanwybyddu. Byddai methu â chefnogi’r gweithwyr allweddol hyn mewn cyfnod o angen mawr yn cael effaith bellgyrhaeddol a thrychinebus ar gefn gwlad Cymru.

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree