Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Covid-19: Diffyg cyfarpar diogelu personol i staff gofal iechyd yn ‘peryglu bywydau’

  • Tweet
Friday, 27 March, 2020
Portrait of Janet Finch-Saunders

Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd, mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i gyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol er mwyn gwarchod gweithwyr gofal cymdeithasol.

Daw ei neges heddiw (27 Mawrth) mewn ymdrechion i arafu a chynnwys lledaeniad Covid-19 (Coronafeirws).

Meddai Mrs Finch-Saunders:

“Mae’r peryglon i’w gweld yn cynyddu, ac rwy’n credu ein bod ni megis un yn ein dymuniad i sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i helpu i ddiogelu staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

“Os na edrychwn ni ar eu holau nhw i gyd, mae posibilrwydd gwirioneddol na fydd digon i staff i ofalu am ein pobl ni.”

Dyma rai o awgrymiadau Mrs Finch-Saunders:

  • Sefydlu tîm i gysylltu â phob darparwr gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn pennu eu gofynion o ran cyfarpar diogelu personol
  • Canfod pa ganllawiau iechyd a diogelwch sydd wedi’u darparu i bawb sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol
  • Nodi sut mae canllawiau cyfarpar diogelu personol yn cael ei rannu, a pha mor aml y caiff ei ddiweddaru
  • Esbonio pa gymorth sy’n cael ei ddarparu i rai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol o ran cael gafael ar gyfarpar diogelu personol

Ychwanegodd:

“Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd ystyried ymgyrch ar-lein glir i ddweud sut gall darparwyr gofal gysylltu â Chanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru.”

Roedd Mrs Finch-Saunders yn cydnabod camau’r Gweinidog Iechyd i wella mynediad at gyfarpar diogelu personol yr wythnos hon, a’i fod wedi derbyn bod problemau parhaus â’r ddarpariaeth.

Ond dywedodd fod y sefyllfa bresennol yn arwydd o “greisus yn y sector gofal cymdeithasol”.

“Dros y deuddeg awr ddiwethaf, rwyf wedi derbyn llu o alwadau gan unigolion ledled Cymru sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, a ymatebodd i’m galwad i ddweud os oedden nhw wedi methu cael gafael ar gyfarpar diogelu personol priodol.”

Soniodd am gartrefi gofal sydd angen cannoedd o focsys o 50 o fasgiau er mwyn diogelu staff ymhen wythnos; unedau iechyd meddwl sy’n methu cael gafael ar fasgiau a masgiau llygaid; a sefyllfaoedd lle gallai rhai staff gofal cymdeithasol wrthod cyflawni eu gwaith am fod ganddynt ofn dal y feirws.

I gloi, meddai:

“Rwyf wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i ystyried hyn fel mater brys – neu bydd bywydau yn y fantol a hynny oherwydd diffyg masg.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree