Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: Gweinidog yr Wrthblaid wedi synnu at yr oedi gyda chanlyniadau profion coronafeirws i weithwyr gofal cymdeithasol

  • Tweet
Wednesday, 15 April, 2020
Janet in Plenary.

Heddiw (15 Ebrill), mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn yr Wrthblaid - wedi siarad am ei syndod bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gorfod aros am hyd at bum diwrnod i dderbyn eu canlyniadau prawf COVID-19. Mae Aelod Aberconwy hefyd wedi siarad am ei siom gyda’r gallu cyfyngedig i gynnal profion ar hyn o bryd.

Mewn dau gwestiwn ysgrifenedig brys i Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd Cymru, gofynnodd Janet:

  • A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i gynyddu uchafswm capasiti profion dyddiol presennol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol?
  • All y Gweinidog gadarnhau pa gamau y mae’n eu cymryd i leihau'r cyfnod aros o ddau i bum niwrnod am ganlyniadau profion coronafeirws?

Daw ei ymholiadau yn sgil cyfathrebu â chartrefi gofal preswyl ledled ei etholaeth. Ymysg pryderon eraill, mae rheolwyr yn crybwyll oedi hir cyn derbyn canlyniadau profion COVID-19 a diffyg canllawiau uniongyrchol ar gyfarpar diogelu personol gan Lywodraeth Cymru.

Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Mae’n syndod gen i glywed am yr oedi a brofir gan weithwyr gofal cymdeithasol sy’n aros am eu canlyniadau COVID-19. Mae’n rhaid i Weinidog Iechyd Cymru gael gwared ar y fiwrocratiaeth aneffeithiol sy’n ymestyn yr amser rhwng cynnal profion a derbyn canlyniadau.

“Po hiraf y mae gweithwyr gofal cymdeithasol iach yn aros i ffwrdd o’r gwaith, y mwyaf fydd y straen ar ein sector gofal cymdeithasol sydd eisoes yn ysgwyddo gormod o faich.

“Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y profion sydd ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol ar unwaith. Mae’r gallu cyfyngedig presennol i gynnal profion yn tarfu ar y broses o gyflwyno profion yn ehangach i sicrhau iechyd a diogelwch staff rheng flaen.

“Yn fy etholaeth fy hun yn Aberconwy, gyda’i phoblogaeth hŷn, rwy’n derbyn llawer o negeseuon pryderus ynghylch iechyd ein staff gofal cymdeithasol gwych.

“Rwy’n bryderus iawn i glywed eto am ddryswch o ran canllawiau ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru arwain o’r blaen i sicrhau bod y canllawiau diweddaraf yn cael eu cyfathrebu’n glir.

“Mae’n rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddiogelu ein staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae mynediad at sianeli cyfathrebu clir ar gyfer ein staff rheng flaen yn hanfodol er mwyn i swyddogion cyhoeddus ddeall lle mae’r galw mwyaf am gyfarpar diogelu personol.

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree