Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: ‘Mae busnesau yn haeddu eglurder, nid sylwadau ffwrdd â hi

  • Tweet
Monday, 8 June, 2020
North Wales Tourism

Heddiw (8 Mehefin) mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi annog y Prif Weinidog i egluro’r sefyllfa i fusnesau twristiaeth ledled y Gogledd, yn dilyn sylwadau a wnaed i bapur newydd cenedlaethol yn ystod y penwythnos. Mewn cyfweliad gyda’r papur newydd i news, awgrymodd y Prif Weinidog y byddai’r gwaharddiad ar deithio mwy na phum milltir yn parhau mewn grym hyd fis Gorffennaf, a rhybuddiodd y byddai ffiniau Cymru ar gau i bob diben dros yr haf.

Bydd ei sylwadau yn dipyn o ergyd i ddiwydiant twristiaeth Cymru, yn enwedig i fusnesau yn y Gogledd. Awgryma ffigurau diweddar fod budd economaidd twristiaeth yn Sir Conwy werth oddeutu £900 miliwn, yn sgil tua 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Wrth siarad am sylwadau’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:

“Rwyf wedi fy siomi gyda sylwadau’r Prif Weinidog dros y penwythnos. Rwy’n gwybod y bydd llawer o fusnesau yng Nghymru wedi dychryn gyda’i awgrym na fydd llawer yn newid o ran y sector twristiaeth yn 2020.

“Mae’n hollol amlwg mai iechyd a diogelwch preswylwyr yw’r peth pwysicaf i bob swyddog cyhoeddus. Fodd bynnag, da o beth fyddai i’r Prif Weinidog gofio bod economi Cymru a bywoliaeth deilwng ei thrigolion yn y fantol.

“Mae Conwy wrth galon yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i dwristiaid, a bydd y sylwadau hyn yn glec fawr i sawl busnes bach, lleol. Dylai unrhyw gamau sy’n wahanol i weddill y DU gael eu hegluro drwy gyngor gwyddonol cyhoeddedig.

“Mae busnesau Cymru yn haeddu eglurder, nid sylwadau ffwrdd â hi. Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog fynd ati ar unwaith i amlinellu ei gynlluniau ar gyfer y sector hwn, gan gynnwys cymorth ariannol ar gyfer y busnesau hyn yn y dyfodol os gwireddir ei ragolygon.

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree