Heddiw (27 Mai), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy - wedi siarad am ei siom gydag ymateb Llywodraeth Cymru i’w chais am gronfa arbenigol ar gyfer sŵau, wedi’i llunio i gefnogi sefydliadau fel Sw Mynydd Cymru drwy gyfnod y pandemig.
Yn gynt yn y mis, sefydlodd Llywodraeth y DU gronfa £14 miliwn i ddarparu grantiau lles anifeiliaid o hyd at £100,000 i sŵau neu acwaria sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws yn Lloegr. Yn ei lythyr yn ymateb i Mrs Finch-Saunders, dywedodd Ken Skates AS (Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru):
“Nid oes angen cronfa benodol i sŵau yng Nghymru gan fod y Gronfa Cadernid Economaidd yn bodoli, ac mae honno’n unigryw i Gymru.”
Ers hynny, mae’r Grŵp Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth y DU. Gall aelodau’r cyhoedd ddod o hyd i’r ffurflen ddigidol yn Conservatives.Wales.
Yn siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn taflu pob sw yng Nghymru i ffau’r llewod drwy wrthod lansio Cronfa Gymorth i Sŵau Cymru.
“Mae’n bechod mawr na feddyliodd Llywodraeth Cymru, wrth ysgrifennu at y deg sw ar hugain yng Nghymru, y byddai’n syniad da canfod hyfywedd parhaus neu ariannol y sefydliadau. Pe bai hyn wedi’i gynnwys yn ei holiadur, efallai y byddai’r Gweinidog wedi dod i ddeall y gwir sefyllfa sydd ohoni.
"Mae gorfod cau yn sgil y pandemig coronafeirws byd-eang wedi rhoi pwysau enfawr ar y sefydliadau hyn, sydd wedi methu rhoi eu gweithwyr ar ffyrlo yn sgil rhwymedigaethau parhaus lles anifeiliaid. Mae eu hamgylchiadau yn gofyn am ymateb arbenigol a chyson nad yw’n cael ei gynnig gan y cynlluniau sy’n bodoli eisoes.
"Mae Llywodraeth Cymru yn anfodlon nodi bod lles anifeiliaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’w gweinyddiaeth. Mae’n rhaid ei bod hi’n hen bryd i’r Llywodraeth ategu’r geiriau caredig hyn gyda chamau amlwg, fel gweithredu cynllun tebyg i gronfa cymorth COVID-19 i sŵau Llywodraeth y DU.
DIWEDD
Nodiadau:
- Deiseb y Ceidwadwyr Cymreig: https://bit.ly/2B2HN13
- Llythyr ymateb Ken Skates AS (24 Mai 2020), amgaeedig.
Ffoto gan: Diaga Ellaby