Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

COVID-19: ‘Mae’n rhaid i ni graffu ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllid Coronafeirws’

  • Tweet
Tuesday, 14 April, 2020
Portrait of Janet Finch-Saunders AM/AC

Mae Janet Finch-Saunders AC - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid - wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (14 Ebrill) am gronfa £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofal cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19 (Coronafeirws), ond nid heb rybudd.

Meddai Mrs Finch-Saunders:

“Wrth gwrs ein bod ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r cyhoeddiad am y cyllid hwn, sydd â’r nod o helpu i dalu am y costau cynyddol o gyfarpar diogelu personol sylfaenol, bwyd, costau staffio a TGCh, sy’n cael eu profi gan wasanaethau cymdeithasol oedolion. Dylid canmol unrhyw beth sy’n helpu i gadw ein gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn ddiogel a’u galluogi i wneud eu gwaith gwych.

“Fodd bynnag, nid arian newydd yw hwn, ond swm bach sydd wedi’i gymryd o’r ‘gronfa frwydro’ a gafodd ei sefydlu a’i chyhoeddi yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru, ac mae hanner y gronfa hon yn gyllid a ddyrennir gan Lywodraeth y DU i Gymru drechu’r pandemig hwn.

“Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Paul Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, ddoe am y £350 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU - gan ei ymestyn i £2 biliwn bron iawn i drechu Coronafeirws - mae angen i ni ddilyn yr arian a gweld sut, pryd, ar bwy ac yn lle mae’n cael ei wario gan weinyddiaeth Llafur Cymru.

“Rydym yn gweithio gydag Aelodau o bleidiau eraill yn ystod y pandemig hwn, ond ein gwaith ni fel yr wrthblaid yw dal ati i graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a sut mae’n gwario - ac mae’n bwysicach gwneud hynny nawr nac erioed.”

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree