Wrth holi'r Prif Weinidog am amseroedd aros am driniaeth canser yn y Gogledd, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio blaengynllun gweithredu i "gau'r bwlch rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol.”
Mae amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi'r GIG ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos cynnydd o 11 gwaith yn nifer y bobl sy'n aros dros 8 wythnos am un o 7 prawf allweddol a ddefnyddir i ddiagnosio canser.
Wrth sôn am ei chwestiwn yn y Siambr, dywedodd Janet:
“Yn ôl ystadegau diweddar, nid yw tua thraean y cleifion yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dechrau ar eu triniaeth gyntaf yn y mis o fewn chwe deg dau diwrnod o gael eu diagnosio â chanser.
"Yn fwy na hynny, ochr yn ochr ag oedi cyn cael diagnosis, mae bwlch sy’n destun pryder rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol. Er enghraifft, rwy'n gwybod am o leiaf un etholwr na chafodd ei hysbysu am yr opsiynau triniaeth sydd ar gael yn dilyn diagnosis cam 4 sy’n newid bywyd; yn hytrach, cafodd wybod y byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud i Wrecsam neu Lerpwl maes o law.
“Mae'r sefyllfa hon yn arwain at oedi annerbyniol i gleifion a blinder difrifol annerbyniol i staff rheng flaen sy'n gweithio mor galed. Dyma pam rydw i wedi pwyso ar y Prif Weinidog i sicrhau bod ei Gabinet yn cydweithio i gau'r bwlch rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS