Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Cyfleoedd ar gyfer cynnyrch Cymreig eiconig fel rhan o gytundeb masnach newydd rhwng y DU a Japan

  • Tweet
Tuesday, 15 September, 2020
David Greenwood/UnSplash

Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi croesawu’r newyddion y bydd nifer y dynodiadau daearyddol ar gyfer cynnyrch Cymru yn cynyddu dan y cytundeb masnach newydd rhwng y DU a Japan.

Mae cig oen Cymru, cregyn gleision Conwy a halen môr Môn ymysg y 15 o gynhyrchion eiconig o Gymru a allai gael eu diogelu yn Japan am y tro cyntaf fel rhan o gytundeb masnach newydd rhwng y DU a Japan. Cytunwyd ar Gytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr rhwng y DU a Japan mewn egwyddor gan Liz Truss, yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol a Gweinidog Tramor Japan fel rhan o alwad fideo ddydd Gwener 11 Medi 2020. Dyma’r cytundeb masnach fawr gyntaf i’r DU y tu allan i’r UE.

Gan roi ei sylwadau ar y cytundeb masnach, dywedodd Janet:

“Mae’r cytundeb arloesol hwn yn gam anferth ymlaen o safbwynt cysylltiadau DU-Japan ac yn sicrhau manteision ychwanegol i Gymru y tu hwnt i’r cytundeb masnach presennol rhwng y ddwy wlad, gan gynnwys cynyddu nifer y dynodiadau daearyddol fel ffordd o gydnabod cynhyrchion Cymreig eiconig fel cig oen Cymru a gwinoedd rhanbarthol.

“Nid yn unig y bydd y cytundeb newydd yn cryfhau rhagolygon hirdymor y 277 busnes yng Nghymru a allforiodd eu nwyddau i Japan y llynedd, ond hefyd fe fydd yn agor marchnad newydd i’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.

“Gyda chyfleoedd i lu o fusnesau newydd werthu eu nwyddau i Japan am y tro cyntaf erioed, bydd y cytundeb newydd hwn yn hwb gwych i entrepreneuriaid newydd ein cenedl. Mae gwledd yn aros trigolion Osaka, wrth iddyn nhw ddechrau cael blas ar gregyn gleision o Gonwy yn sicr!

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru bellach fod yn barod i sicrhau y gall ein busnesau fanteisio i’r eithaf ar y cytundeb hwn. Mae hynny’n golygu mireinio’r cynllun Cymorth i Allforio, a gynigir drwy Bwyd a Diod Cymru, er mwyn egluro’n well a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yn y farchnad Asiaidd bwysig hon.”

DIWEDD

Ffoto: David Greenwood/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree