Mae gwaith parhaus gan Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, ar leihau’r risg o lifogydd yn Nyffryn Conwy wedi datgelu’r ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn methu Ardal Draenio Mewnol Conwy.
Fel arfer mae ardaloedd draenio i’w gweld ar dir isel. Prif rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoli lefelau dŵr a lleihau’r risg o lifogydd drwy reoli a chynnal sianeli draenio, cyrsiau dŵr arferol, gorsafoedd pwmpio a strwythurau rheoli. Caiff y rhaglen ei chytuno yn dilyn ymgynghoriad â’r Grŵp Cynghori Ardal Draenio.
Fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgelu i Weinidog yr Wrthblaid nad yw Grŵp Cynghori Dyffryn Conwy wedi cyfarfod ers 5 Rhagfyr 2019.
Gan ymateb i ohebiaeth Gweinidog yr Wrthblaid, ysgrifennodd swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym wedi cyfarfod grŵp cynghori Ardal Draenio Mewnol Dyffryn Conwy ar 19/4/18, 27/11/18 a 6/6/19, 5/12/19. Dydyn ni ddim wedi gallu cyfarfod eleni oherwydd cyfyngiadau Covid. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys erydiad i arglawdd yn Surf Snowdonia, 2 siambr a oedd yn gollwng yn Nolgarrog, coed helyg yn Nolgarrog, newid llwybr mynediad ar gyfer cynnal a chadw ffosydd yn Nolgarrog, drws llanw ddim yn cau’n briodol yn Whitebarn, tynnu silt yn Afon Ddu, amseriad gwaith chwynnu a mater y Japanese Knotweed yn yr ardal”.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid:
“Mae’r llifogydd hyn yn fethiant arall gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r ffaith nad ydyn nhw wedi cynnal cyfarfod o’r Grŵp Cynghori ers dros flwyddyn yn warthus.
“Gwelwyd llifogydd mewn tua 70 eiddo yn Nyffryn Conwy y llynedd o ganlyniad i Storm Ciara. Roedd busnesau’n gorfod rhoi’r gorau i fasnachu, da byw yn cael eu lladd, a’r rheilffordd yn cael ei difrodi unwaith eto.
“Roedd y difrod yn ddinistriol felly mae’n warthus nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trefnu cyfarfod o Grŵp Cynghori Ardal Draenio Mewnol Dyffryn Conwy.
“A’i roi yn gwrtais, mae defnyddio Covid fel esgus i geisio cyfiawnhau diffyg gweithredu yn rwtsh llwyr. O Senedd Cymru i gwisiau teuluol, mae cymaint ohonon ni wedi gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn rhithwir. Mae’r ffaith dyw Cyfoeth Naturiol Cymru ddim wedi dilyn yr opsiwn hwn yn peri dryswch.
“Rydw i’n credu’n wirioneddol bod y tîm yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn llawn bwriadau da, ond eu bod wedi’u llethu gan y gofynion sydd arnyn nhw. Yn wir, amcangyfrifir bod angen hyd at 70 o aelodau staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyffredinol ar y lefelau a ddisgrifir gan y gweithredoedd a’r gwelliannau a welwyd yn adroddiad Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd, ond dim ond digon o gyllid i gyflogi’r hyn sy’n cyfateb i 36 aelod staff llawn amser sydd wedi dod i law – dim ond hanner yr hyn sydd angen”.
DIWEDD
LLUN: Cyfarfod Cyhoeddus ar Lifogydd yn Llanrwst (cyn y cyfnod clo cyntaf)