Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Cyngor Conwy yn Cytuno i Gyfarfod Safle ar Ffordd y Frenhines

  • Tweet
Monday, 7 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (7 Medi) mae Aelod o’r Senedd Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi croesawu cytundeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’w chais am gyfarfod safle ar Ffordd y Frenhines, Craig-y-Don, i drafod diogelwch cerddwyr.

Ysgrifennodd Mrs Finch-Saunders at yr Awdurdod Lleol fis diwethaf gyda chais am gyfarfod safle yng ngoleuni pryderon hirsefydlog pobl leol ynghylch goryrru, a'r ddamwain ofnadwy lle cafodd bachgen ifanc ei daro oddi ar ei feic yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd a oedd yn pasio.

Wrth sôn am y sefyllfa ddiogelwch ar Ffordd y Frenhines dywedodd Janet:

“Mae Ffordd y Frenhines yn un o’r prif lwybrau i’n promenâd byd-enwog a busnesau lleol gwych.

“O ystyried pwysigrwydd strategol y briffordd, ei bod yn rhedeg trwy galon ein cymuned, a bod yn rhaid ei chroesi i gael mynediad i gyfleusterau cyhoeddus allweddol ar y ddwy ochr, dydw i ddim yn synnu bod trigolion yn poeni am ddiogelwch cerddwyr.

“Gydag un bachgen wedi cael ei daro i lawr, ac etholwyr yn ofnus wrth groesi’r ffordd, mae’n amlwg bod angen cymryd camau a fydd yn gwella diogelwch.

“Rwy’n croesawu’r newyddion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cytuno i gynnal cyfarfod safle gyda mi, ac edrychaf ymlaen at drafod pa gamau priodol y gellir eu cymryd”.

DIWEDD

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree