Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Cynnydd Cadarnhaol” gyda Llwybr Beiciau RSPB Conwy

  • Tweet
Monday, 13 January, 2020
Conwy

Yn dilyn bron i ddau ddegawd o ymgyrchu am lwybr beiciau yn cysylltu Conwy a Glan Conwy drwy’r RSPB, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad  Aberconwy, yn gweld “cynnydd cadarnhaol” o ran sicrhau’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae hi’n ceisio trefnu cyfarfod gyda’r holl bartneriaid allweddol er mwyn ceisio cyflymu’r prosiect. 

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal trafodaethau gyda’r RSPB erbyn hyn a byddant yn trafod gyda Network Rail cyn bo hir.

 

Wrth sôn am y llwybr teithio llesol, dywedodd Janet:

 

“Diben Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 oedd galluogi mwy o bobl i deithio’n llesol, ac felly gadael eu ceir a cherdded neu feicio yn lle hynny.

 

“Gyda deddfwriaeth o’r fath, y gobaith oedd y byddai’r llwybr arfaethedig i gysylltu Conwy a Glan Conwy wedi cael ei gynllunio a’i weithredu’n gyflym.

 

“Yr hyn rydym ni ei weld yw Llywodraeth Cymru’n rhwystro prosiect gwych a fyddai’n cysylltu cymunedau, yn darparu llwybrau diogel i ysgolion, mannau gwaith a siopau.

 

“Fodd bynnag, ers i gyllid gael ei wrthod eto yn 2017/18, mae yna lygedyn o obaith.

 

“Drwy drafod a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, cefais wybod bod yna gynllun ar gyfer pont sy’n addas ar gyfer teithio llesol ar draws Llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy wedi’i ddatblygu a bod yr Awdurdod Lleol angen cael cytundeb yr RSPB a Network Rail yn awr.

 

“Dros y Nadolig, roeddwn i’n falch o dderbyn cadarnhad bod y trafodaethau ar y gweill gyda’r RSPB a bod y trafodaethau gyda Network Rail ar fin cychwyn.

 

“Byddaf yn dal ati i ymgyrchu tan y bydd llwybr teithio llesol yn ei le a byddaf yn gwahodd yr holl bartneriaid allweddol i gyfarfod er mwyn ceisio cychwyn y prosiect o’r diwedd.

 

“Mae’r cynllun wedi aros yn ei unfan ers 16 mlynedd, a byddaf yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru ac asiantaethau perthnasol a’u herio i gydweithio er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau”.

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

AC yn erfyn am 2.1% o fuddsoddiad o gyllideb gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer llwybr beiciau rhwng yr RSPB a Glan Conwy

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree