Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Cynnydd cadarnhaol tuag at Gyllid Ysgolion Digonol”

  • Tweet
Friday, 25 October, 2019
Janet

Ar ôl i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gyhoeddi Adroddiad Cyllido Ysgolion yng Nghymru, ac i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru dderbyn pob argymhelliad yn ystod y ddadl ddoe, mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid, ac aelod o’r Pwyllgor Addysg, wedi croesawu’r ‘cynnydd cadarnhaol tuag at gyllid ysgolion digonol’.

 

Ar ôl cymryd rhan yn y ddadl, dywedodd Janet:

 

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod y pleidiau’n cytuno bellach nad oes digon o arian yn cael ei roi i system addysg Cymru, ac yn sicr does dim digon o arian yn ffeindio’i ffordd i’n hysgolion.

 

“Mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, eisoes wedi rhoi hwb drwy gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.24 biliwn o wariant ychwanegol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion.

 

“Fodd bynnag, mae ein Pwyllgor Addysg wedi bod yn glir yn yr adroddiad bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.

 

“Rydym wedi clywed rhybuddion y bydd bwlch cyllideb ysgolion yn codi ymhellach i £319 miliwn yn 2022-23, bod anghydraddoldeb sylweddol yn y swm sy’n cael ei wario gan awdurdodau ar ysgolion, a bod gan 225 ddiffyg ariannol ym mis Mawrth 2018.

 

“Mae’r argyfwng yn llethu’r Gogledd hefyd, gyda data yn dangos bod gan 55 ysgol ddiffyg ariannol.

 

“Mae hon yn broblem sy’n cael blaenoriaeth ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar bob un o’n hargymhellion.

 

“Wrth symud ymlaen, bydd ein Gweinidog Addysg nawr, ar sail ein gwaith, yn adolygiad arolwg brys i bennu faint o gyllid sydd ei angen i gyllido ysgolion yn ddigonol; yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag achosion lle mae gan ysgolion gyllidebau mewn diffyg; ac yn ymchwilio ar frys i’r rheswm pam mae awdurdodau lleol yn gwario £11 miliwn ar welliannau ysgolion tra’u bod yn gwario'r un faint ar brynu gwasanaethau gwella ysgolion gan gonsortia rhanbarthol.

 

“Pe bai Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael yn iawn â hyn, credaf fod y Gweinidog yn derbyn argymhellion ein pwyllgor yn dangos cynnydd cadarnhaol tuag at gyllid ysgolion digonol.”

 

 

DIWEDD

 

 

Nodiadau:

 

Debate on the Children, Young People and Education Committee Report: School Funding in Wales (23/10/19)

 

Adroddiad Cyllido Ysgolion yng Nghymru

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree