Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Cynnydd o ran Cronfa Datblygu Sioeau Gwledig

  • Tweet
Wednesday, 24 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud cam cadarnhaol tuag at gyflawni ei galwadau am Gronfa Datblygu Sioeau Gwledig. Ysgrifennodd yr Aelod at Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn yn amlinellu'r angen i greu Cronfa a fyddai'n:

  • Sicrhau bod grantiau ar gael i bob sioe i helpu gyda gwaith marchnata, mesurau diogelwch Covid-19, a hyd yn oed mwy o arallgyfeirio;
  • Cynnwys cyfres o ganllawiau gweithredol ar gyfer sioeau amaethyddol fel y gallant ailsefydlu'n hyderus;
  • Gweld Croeso Cymru yn cyhoeddi 'Taith sioeau amaethyddol Cymru' – gan annog pobl i fynychu'r digwyddiadau hyn lle gellir dysgu cymaint am ffermio, bwyd a chrefft.

Erbyn hyn, mae Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi ymateb: · Mae wedi derbyn holl argymhellion yr Adolygiad o gadernid sioeau amaethyddol;

  • Bydd cronfa arloesi newydd yn cael ei lansio, yn ogystal â phecyn hyfforddi achrededig newydd ar gyfer unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda chymdeithasau sioeau;
  • Mae ei swyddogion wrthi'n datblygu canllawiau ar gynnal digwyddiadau awyr agored unwaith eto;
  • Bydd swyddogion yn gweithio gyda Croeso Cymru dros y misoedd nesaf.

Wrth sôn am y gefnogaeth i sioeau gwledig, dywedodd Janet:

“Fel yr amlygodd adroddiad yr Adolygiad o Gadernid, mae angen ystyried darparu rhywfaint o gymorth ariannol i sicrhau bod sioeau'n goroesi. Dyma gyfle i arloesi, a dylai Croeso Cymru fod yn hybu'r digwyddiadau hanfodol hyn.

“O sioeau bach â dim ond costau yswiriant i'w talu ar ôl canslo, i ddigwyddiadau undydd a mwy ar raddfa fawr sy'n wynebu colledion sylweddol, dylai cymorth grant fod ar gael. Yn anffodus, mae'r £25,000 sydd ar gael i Gronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol yn cyfyngu ar uchelgais”.

“Digwyddiadau, fel Sioe Wledig Llanrwst a Sioe Eglwysbach, yw pinacl y flwyddyn i lawer o'n trefi a'n pentrefi gwledig. Trwy weithredu fy nghynigion, gobeithio y bydd y cymunedau hyn yn cael eu grymuso i barhau â'r traddodiadau i'r dyfodol.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree