Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Cynnydd yn nifer y babanod sy’n destun achosion gofal ledled Cymru

  • Tweet
Thursday, 24 October, 2019
plant

Ers cyhoeddi astudiaeth sy’n cyflwyno’r darlun cyntaf erioed o faint o fabanod newydd-anedig a phlant bach sy’n destun achosion gofal yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Blant a Gofal Cymdeithasol, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn helpu i egluro’r newid mewn ymarfer, a’r goblygiadau i blant, teuluoedd ac awdurdodau lleol.

Mae prif gasgliadau’r adroddiad yn cynnwys:

  • roedd 3,266 o fabanod yn destun achosion gofal yng Nghymru rhwng 2011 a 2018.
  • am bob 10,000 o enedigaethau byw yng Nghymru, roedd 43 o fabanod newydd-anedig yn cael eu rhoi mewn gofal o fewn pythefnos i’r enedigaeth yn 2011.  Mae hyn wedi mwy na dyblu i 83 o achosion fesul 10,000 erbyn 2018.
  • Mae nifer yr achosion o farwolaethau fesul 10,000 o enedigaethau byw yn uwch yng Nghymru na Lloegr.

Tabl: Cyfraddau mynychder, achosion a.31 a gychwynnwyd ar gyfer babanod newydd-anedig (fesul 10,000 o enedigaethau byw), fesul awdurdod lleol [2011 i 2018] O’r adroddiad yma

Meddai Janet mewn ymateb i gasgliadau’r adroddiad:

 

“Mae nifer y babanod sy’n destun achosion gofal wedi cynyddu ledled Cymru. Roedd pob un o’r tair ardal Barnwr Teulu Dynodedig (DFJ) yng Nghymru wedi gweld cynnydd o ran cyfraddau mynychder rhwng 2011 a 2018.

 

“Er mai yn ardaloedd y De oedd y cafwyd yr achosion mwyaf am bob 10,000 o enedigaethau byw, mae’r gyfradd uchaf yn y Gogledd yma yn Sir Conwy – 68 o fabanod fesul 10,000 o enedigaethau byw.

 

“Mae hyn yn golygu bod cynnydd aruthrol yn y penderfyniadau anoddaf y gall unrhyw arbenigwr ei wneud i ymyrryd ym mywyd teuluoedd, a bod hyn wedi cael cryn effaith ar fy etholaeth i.

 

“Fel y pwysleisiodd yr Athro Broadhurst o Brifysgol Caerhirfryn, mae’n sefyllfa dorcalonnus i famau gan fod disgwyl iddyn nhw ymddangos o flaen llys toc wedi’r enedigaeth.

 

“Mae’n ymddangos bod patrwm clir wedi datblygu, rhwng gostyngiad yng nghyfradd y babanod newydd-anedig a osodwyd i’w mabwysiadu a chynnydd sylweddol mewn babanod newydd-anedig sy’n destun achosion gofal.

 

“Mae angen ymchwilio ymhellach i oblygiadau hyn ar blant, teuluoedd ac awdurdodau lleol, felly rwyf wedi cyflwyno cwestiynau brys i Lywodraeth Cymru fu’n cydweithio ag Awdurdodau Lleol i bennu targedau sydd bellach yn  ymddangos yn amhosib eu cyflawni i leihau plant mewn gofal”.

 

 

DIWEDD

 

Cwestiynau Cynulliad ysgrifenedig i Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

A wnaiff y Gweinidog esbonio sut mae’n disgwyl i awdurdodau lleol leihau nifer y plant mewn gofal pan fo cyfradd y babanod newydd-anedig sy’n destun achosion gofal wedi mwy na dyblu mewn tair blynedd?

 

A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa gamau brys y bydd yn eu cymryd i ganfod y prif resymau dros y newid arfer o ran gorchmynion yn ymwneud â babanod newydd-anedig mewn llysoedd teulu, a’r goblygiadau i blant, teuluoedd ac awdurdodau lleol?

 

A wnaiff y Gweinidog ddweud faint o blant yng Nghymru oedd yn destun achosion gofal, achosion teuluol a mabwysiadu ar wahân yn 2016/17, 2017/18, a 2018/19?

 

P’un o’r 22 o Awdurdodau Lleol Cymru y mae’r Gweinidog wedi cysylltu â nhw eleni i drafod effaith achosion gofal babanod a phlant bach?

 

 

Nodiadau:

 

Sharp rise in babies facing being taken into care

 

Number of newborn babies in care proceedings has doubled in Wales since 2015 - 15th Oct 2019

 

Mewn gofal o'u geni: babanod newydd-anedig a phlant bach mewn achosion gofal yng Nghymru - adroddiad cryno

 

Mewn gofal o'u geni: babanod newydd-anedig a phlant bach mewn achosion gofal yng Nghymru

 

Attachments

Attachment Size
Tabl: Cyfraddau mynychder, achosion a.31 a gychwynnwyd ar gyfer babanod newydd-anedig (fesul 10,000 o enedigaethau byw) 64.36 KB
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree