Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

'Cynyddu uchelgais DRS i adlewyrchu awydd y cyhoedd am newid’

  • Tweet
Monday, 7 December, 2020
Environmental Issues

Heddiw (07 Rhagfyr), mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu treial o gynllun dychwelyd ernes (DRS) newydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy, gan ei bod yn annog Llywodraeth Cymru i gynyddu eu huchelgais i gyrraedd targedau ailgylchu. 

Cyn hir, bydd trigolion Colwyn Heights yn cymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer dull digidol newydd o olrhain ailgylchu, gan helpu Cymru ar drywydd economi gylchol, ddiwastraff. Bydd y treial pedair wythnos yn cynnwys nifer o gartrefi yn yr ardal, ac yn dechrau yn y gwanwyn. Bydd aelwydydd yn cael set o boteli wedi'u tagio gan Polytag, ac yn defnyddio ap am ddim i'w sganio wrth eu rhoi yn y bocsys ailgylchu.

Bydd y poteli hefyd yn cael eu sganio-wrth-gasglu gan dîm ailgylchu gwastraff cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ar gyfer pob potel sy'n cael ei sganio ar y naill ben a'r llall i'r broses DRS, bydd aelwydydd yn derbyn tocyn digidol gwerth 20c yr un. Bydd y tocynnau wedyn yn cael eu cyfrannu at ymgyrch codi arian Ysgol Pen y Bryn, yr ysgol gynradd leol. 

Meddai Janet:  

“Lai na phythefnos yn ôl, agorais ddadl yn siambr y Senedd yn galw am gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn ddi-oed yma yng Nghymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am weithredu system o'r fath ers 2016, wedi'i hysbrydoli gan gynlluniau tebyg ledled y byd. 

“Rwy'n falch dros ben bod Sir Conwy wedi'i dewis ar gyfer y treial DRS arloesol hwn, sy'n brawf o waith caled yr awdurdod lleol a'i swyddogion gwastraff a'r amgylchedd. Mae'r treial hwn yn pwysleisio'r ffaith fod y dechnoleg yn bodoli i’w gwneud yn bosib cyflwyno DRS yn gyflym ond hefyd mewn ffordd gyfleus i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol.

“Mae'r treial hwn yn gam cyntaf pwysig. Er hynny, alla i ddim credu bod y broses wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn. Wrth gydnabod mai cynwysyddion diodydd yw tua 40% o sbwriel ein gwlad, mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwella’i hymateb i'r holl wastraff plastig sy'n bla.

“Mae'n hanfodol bod unrhyw dreialon dilynol neu debyg yn cael eu cyflwyno'n gyflym ledled Cymru, wrth i ni bwyso am gamau gweithredu dros economi gylchol. Rhaid i uchelgais Llywodraeth Cymru adlewyrchu awydd y cyhoedd am newid. Dyw mynd dow-dow fel sy’n digwydd ar hyn o bryd ddim yn opsiwn ymarferol bellach.

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion:  

  • I gael rhagor o wybodaeth am y treial, a sut bydd y cynllun yn gweithio, cliciwch yma. 
  • Cwmni o Lannau Dyfrdwy yw Polytag – am ragor o fanylion, cliciwch yma. 

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree