Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Degawd o ddirywiad” mewn Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn y Gogledd

  • Tweet
Monday, 20 January, 2020
Janet

Yr wythnos hon, methodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â mynd i’r afael â galwadau brys i adolygu a diwygio’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd. Cyflwynwyd y cais am adolygiad gan Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol, wrth iddi nodi mai Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd sy’n perfformio waethaf yng Nghymru. Dro ar ôl tro, mae’r adran hon wedi methu â chyrraedd y targed i 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr.

 

Hefyd, roedd perfformiad y Bwrdd Iechyd ar amseroedd aros 12 awr yn waeth nag unrhyw le arall yng Nghymru, gyda dim ond 81.9 y cant o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed ym mis Tachwedd 2019.

 

Meddai Janet ar ôl holi’r Gweinidog:

 

“Mae adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi bod yn dirywio ledled Cymru ers degawd, gyda chanran y cleifion sy’n cael eu gweld o fewn yr amser targed o bedair awr yn disgyn o 90.9 y cant ym mis Hydref 2009 i 74.4 y cant ym mis Tachwedd 2019.

 

“Fel yr eglurais i’r Gweinidog, mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle mae’r ganran gyffredinol wedi disgyn o 93.7 y cant ym mis Hydref 2009 i 72.2 y cant fis Tachwedd diwethaf.

 

“Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth ym mhob un o brif adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y bwrdd, gydag Ysbyty Gwynedd yn gweld dim ond 69.9 y cant o gleifion o fewn y targed, Ysbyty Maelor Wrecsam yn gweld 62.5 y cant, a Glan Clwyd yn gweld 57.5 y cant.

 

“Rwy’n sylweddoli bod adrannau brys o dan bwysau mawr yr adeg hon o’r flwyddyn, ac yn nodi sylw’r Gweinidog y bu ymyrraeth allanol yn ystod y gaeaf diwethaf ac eleni, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn ddigon.

 

“Mae angen rhagor o gymorth ar ein hysbyty.

 

“Dro ar ôl tro dros y degawd diwethaf, mae Ysbyty Glan Clwyd wedi methu â chyrraedd y targed i weld 95 y cant o gleifion o fewn yr amser targed o bedair awr. O ganlyniad, mae’n rhaid gofyn faint yn rhagor o gleifion fydd yn gorfod wynebu cyfnodau hir o aros cyn i’r Gweinidog gytuno i adolygu a diwygio’r adran?”

 

Nodiadau:

 

Questions to the Minister for Health and Social Services: Accident and Emergency Waiting Times

 

Perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr o ran amseroedd aros yn ôl ysbyty

 

Perfformiad yn erbyn y targed o 12 awr o ran amseroedd aros yn ôl ysbyty

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree