Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Diogelu Morloi Llandudno

  • Tweet
Wednesday, 15 January, 2020
Morloi

Mae’r RSPCA a Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, yn gofyn i’r cyhoedd “gymryd camau bychain i achub morloi Llandudno”.

 

Mae hyn ar ôl i’r Aelod Cynulliad fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Mostyn Estates, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrigolion lleol i gyflwyno cod ymddygiad morol yn llwyddiannus ar gyfer llongau/ cychod hamdden sy’n cael eu lansioo lithrfeydd sy’n eiddo i Gyngor Conwy a gweld arwydd addysgiadol ar Drwyn y Fuwch. Hefyd, daw’r alwad yn sgil gweld morloi wedi’u hanafu yn Pigeon’s Cove, Pen y Gogarth, dros y penwythnos.

 

Mewn ymdrech i ddiogelu’r morloi, dywedodd Janet:

 

“Rydym ni’n ffodus dros ben o gael cymaint o forloi llwyd a harbwr yn gorffwys yma.

 

“Maen nhw’n cyfrannu at ein hamgylchedd unigryw, ac wedi dod yn atyniadau poblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr, sy’n cadw pellter diogel.

 

“Rydw i wedi bod wrthi’n rhagweithiol yn diogelu’r morloi ers 2016.

 

“Bellach, mae gennym ni god ymddygiad ar waith ar gyfer defnyddwyr cychod, a diolch i Mostyn Estates, arwydd yn atal cerddwyr, perchnogion cŵn, mynyddwyr a’r cyhoedd rhag mynd yn rhy agos i Borth Dyniewaid.

 

“Rydym ni wedi clywed sôn dros y Nadolig am bobl a’u cŵn yn mynd at y morloi hyn sy’n gorffwys.

 

“Rydw i’n cefnogi apêl yr RSPCA ac yn annog pawb i gymryd camau bychain i achub morloi Llandudno, fel cadw eu cŵn ar dennyn, peidio â gadael leiniau pysgota a barcuta ar draethau, a pheidio â mynd yn agos at y morloi pan fyddan nhw’n gorffwys. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein poblogaeth gynyddol o forloi yn parhau i ffynnu.”

 

Nodiadau:

 

Os ydych chi’n gweld morlo wedi’i anafu, cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999

 

RSPCA issues warning after injured seal seen on Llandudno's Great Orme

 

Janet Finch-Saunders AM: Leads call for a voluntary Code of Conduct to protect Angel Bay Seals

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree