Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Diweddariad cadarnhaol ar gynlluniau i fynd i'r afael â gorlif Llyn Eigiau

  • Tweet
Thursday, 28 January, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Fel rhan o'i hymgyrch hirhoedlog ar broblemau llifogydd lleol, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – heddiw (28 Ionawr) wedi croesawu cynigion pellach i leihau gollyngiadau dŵr o Lyn Eigiau, yn sgil diweddariad gan RWE Innogy.

Ar hyn o bryd mae RWE yn cynnal astudiaeth i ddeall hyfywedd y cynnig i gynyddu capasiti Llyn Eigiau. Ers eu diweddariad diwethaf, mae'r cwmni wedi rhagweld effeithiau'r mesurau gwahanol y gellir eu gweithredu, gan gynnwys cynyddu capasiti llif y twnnel o Eigiau i Cowlyd. Mae'r model yn dangos y gallai hyn leihau'r gollyngiad cyfartalog gan hanner.

Wrth sôn, dywedodd Janet:

“Diolch i gydweithrediad parhaus RWE Innogy, mae camau breision yn cael eu cymryd i ganfod ateb effeithlon a chostffeithiol i leihau'r cyfraddau dŵr sy'n gollwng o Lyn Eigiau. Rwy'n gwybod y bydd trigolion ledled Dyffryn Conwy yn croesawu'r newyddion rhagorol hwn.

“Mae modelu dadansoddi RWE wedi cyhoeddi rhai canlyniadau annisgwyl ond calonogol, a bydd y cwmni'n ceisio eu cadarnhau nawr gyda phrofion safle a thrwy gasglu data pellach. Mae hyn yn hanfodol gan mai diogelwch y cyhoedd yw'r brif flaenoriaeth i bawb.

“Rwy'n gwerthfawrogi amynedd trigolion yn fawr, wrth i mi barhau i annog rhanddeiliaid i wneud gwaith a fydd yn lliniaru problemau llifogydd hirsefydlog. Mae'r diweddariad hwn yn brawf pellach o sut gall camau gweithredu gan grwpiau lleol ymroddedig, megis ein cyfarfodydd yng Ngwesty'r Eryrod Llanrwst, arwain at gamau blaengar ymlaen sy'n diogelu tiroedd a chartrefi.

“Ochr yn ochr â'r cyfarfodydd hyn, rwyf hefyd wedi cyflwyno fy nghynllun trawsnewidiol i Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu cymunedau rhag llifogydd. Mae Cymru yng nghanol argyfwng llifogydd, felly byddai'r cynllun hwn yn cyflwyno asiantaeth benodol a fyddai’n canolbwyntio’n unswydd ac 100% ar y mater, yn hytrach na'r trefniant presennol lle mae gan 300 o swyddogion CNC rywfaint o gyfrifoldeb ar y mater.”

DIWEDD

Llun: Cyfarfod cyhoeddus yn Llanrwst fis Chwefror 2020 - cyn cyfyngiadau’r Coronafeirws

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree