Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion McCarthy Stone i newid y maes parcio am floc o 55 o fflatiau un llofft a dwy lofft yn arbennig ar gyfer pobl sy’n 60 oed neu’n hŷn.
Mae’r arddangosfa rithwir ar gael yma.
Gan gyfeirio at y cynigion, meddai Janet:
“Fel y nodir yn yr arddangosfa rithwir, mae gan y safle amrywiaeth wych o amwynderau lleol wrth law.
“Felly mae’r safle yn ddelfrydol fel maes parcio a dylai barhau fel maes parcio.
“All Llandudno ddim fforddio colli unrhyw ofodau parcio. Bydd preswylwyr a phobl sy’n teithio i Landudno am eu siopa wythnosol neu ar eu gwyliau yn gwybod yn iawn am y trafferthion parcio yn y gymuned.
“Byddwn yn argymell bod McCarthy Stone yn tynnu’r cynigion yn ôl ac yn cysylltu ag Anwyl Homes i geisio caffael safle Gwesty’r Gogarth Abbey sydd wedi’i adael heb ei ddatblygu am rhy hir o lawer”.
DIWEDD
Nodiadau:
Cynigion McCarthy Stone i ailddatblygu Maes Parcio Ffordd Maelgwyn