Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Dylai Busnes Cymru fod “yn fwy effeithiol yn Aberconwy”

  • Tweet
Friday, 3 January, 2020
Janet

Bu galwadau am adolygu effeithiolrwydd Busnes Cymru. Mae hyn yn dilyn canfyddiad Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad dros Aberconwy a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, mai dim ond 77 menter newydd y mae Busnes Cymru wedi helpu i greu mewn 57 mis.

 

Meddai Janet am ei chanfyddiad:

 

“O gofio mai adran Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i gynorthwyo busnesau yw Busnes Cymru, dylai fod yn cyflawni llawer mwy.

 

“Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod 77 menter newydd wedi’u cefnogi yn Aberconwy mewn ychydig dros 4 blynedd, mewn etholaeth â thua 45,000 o bleidleiswyr cofrestredig, dylai Llywodraeth Cymru fod yn meithrin hyd yn oed yn fwy.

 

“Mae’n destun siom nad hwn yw’r tro cyntaf i mi siarad am yr angen i Busnes Cymru fod yn fwy effeithiol yn Aberconwy.

 

“Y llynedd fe nodais fod y Prif Weinidog yn fodlon â’r ffaith fod Busnes Cymru ddim ond wedi helpu 23% o’r rhai a ymatebodd i’m harolwg, a thua 0.3% (853 o 253,600) o fusnesau yng Nghymru dros gyfnod 3 blynedd.

 

“Busnes yw asgwrn cefn ein gwlad.

 

“Mae’r swyddi a’r arian sy’n cael eu creu yn helpu i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus rydym yn dibynnu arnynt, felly mae’n dda gennyf barhau i herio Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chamau gweithredu posibl i roi hwb i fusnesau yn yr ardal”.

 

DIWEDD

 

 

 

Cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad gan Janet Finch-Saunders AC:

Ymhellach i’r cyfarfod llawn ar 4 Rhagfyr 2019, a wnaiff y Gweinidog ddweud faint o’r 740 o fentrau newydd a sefydlwyd gyda chymorth Busnes Cymru sydd wedi’u lleoli yn Aberconwy?

 

Ymateb gan Ken Skates AC:

Yn ystod cam presennol ei ddarpariaeth, ers mis Ebrill 2015, mae Busnes Cymru wedi helpu i greu 77 menter newydd yn Aberconwy.

 

Ymateb gan Janet Finch-Saunders AC:

Ymhellach i WAQ79237 a’r ffaith mai dim ond 77 menter newydd y mae Busnes Cymru wedi helpu i greu mewn 57 mis, a fydd y Gweinidog yn adolygu gwaith Busnes Cymru er mwyn nodi sut y gallai’r tîm helpu i sefydlu hyd yn oed mwy o fusnesau yn Aberconwy? 

 

Nodiadau:

 

Busnes Cymru yn helpu 0.3% o Fusnesau Cymru

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree