Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Dylid rhoi terfyn ar werthu wyau o ieir cewyll drwy 'ymgyrch arloesol a chadarnhaol'

  • Tweet
Monday, 29 June, 2020
Environmental Issues

Heddiw (29 Mehefin), soniodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – am ei llythyr at Brif Weithredwr Tesco, lle’r oedd yn galw ar y cwmni i lansio ymgyrch addysg flaenllaw yn y diwydiant sy'n tynnu sylw at aflwydd wyau o ieir mewn cewyll. Mae diwydiant wyau'r DU yn werth biliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Roedd Tesco eisoes wedi cyhoeddi y bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i brynu wyau o ieir mewn cewyll erbyn 2025. Fodd bynnag, yn ôl RSPCA Assured, mae tua 50% o'r ieir dodwy yn y DU yn dal i gael eu cadw mewn cewyll batri.

Wrth drafod y sefyllfa, meddai Janet:

"Mae fy etholwyr yn llygad eu lle i fod yn siomedig fod archfarchnad Tesco leol wedi dechrau gwerthu mwy a mwy o wyau ieir cewyll. Ers tro byd, derbyniwyd nad yw’r cewyll weiren rhwyllog a ddefnyddir i gadw ieir batri yn rhoi digon o le i grafu’n rhwydd a chlwydo'n gyfforddus, gan arwain yn aml at rwystredigaeth a dioddefaint.

"Rhaid i Tesco roi'r gorau i roi costau uwchlaw lles. Mae eu gweithredoedd yn tanseilio'r camau sylweddol gan ffermwyr lleol i wella'u safonau lles, sy’n aml yn rhoi cyfle i’w ieir grwydro a mwynhau porfeydd agored y Gogledd.

"Fel brand Prydeinig o fri, gyda hanes o addysgu pobl am fwyd, mae Tesco mewn sefyllfa freintiedig i helpu i newid pethau. Rwyf wedi gofyn i'r cwmni ystyried darparu arwyddion clir am darddiad yr wyau hyn.

"Gallai ymgyrch arloesol a chadarnhaol gan Tesco ddarparu adnoddau addysgol pellach i ddefnyddwyr hefyd am wyau cawell sydd wedi'u cuddio mewn bwydydd wedi'u prosesu, fel pasta a chacennau, er mwyn i ddefnyddwyr wneud dewis gwybodus wrth siopa."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Anfonwyd llythyr Janet at Mr Jason Tarry, Prif Weithredwr Tesco y DU a Gweriniaeth Iwerddon, ar 25/06/2020. Ni dderbyniwyd ymateb swyddogol hyd yn hyn. Mae copi’n atodedig.
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree