Heddiw (21 Hydref), gofynnodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – i Lywodraeth Cymru roi mynediad at gymorth ariannol ychwanegol i’r busnesau hynny mewn rhanbarthau a oedd eisoes dan gyfyngiadau lleol ar adeg cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfnod atal byr.
Hefyd, erfyniodd ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i adolygu’r penderfyniad i ddeddfu terfyn gwerth ardrethol o £51,000. Mae’r penderfyniad yn atal sawl busnes lletygarwch lleol rhag cael mynediad at y cymorth cyllid angenrheidiol.
Gan roi sylwadau ar ei chwestiynau i’r Cyfarfod Llawn, dywedodd Janet:
“Os yw’r manylion sy’n newid byth a hefyd gan Busnes Cymru yn arwydd o’r hyn sydd i ddod, mae’n edrych fel y bydd busnesau yn Aberconwy yn cael yr un cymorth cyllid sylfaenol â’r rhanbarthau hynny nad ydyn nhw wedi profi cyfyngiadau lleol cyn i’r Prif Weinidog gyhoeddi ei gyfnod atal byr.
“Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod grant dewisol o £1,000 pellach i’r ardaloedd hynny a gafodd eu heffeithio gan fesurau’r clo yn sgil y cyhoeddiad am y cyfnod atal byr hefyd yn annerbyniol.
“Y gwir amdani yw nad yw’n cydnabod bod sawl busnes lleol wedi bod dan gyfyngiadau lleol ers 1 Hydref ac eisoes yn wynebu miloedd o bunnoedd o golledion. Erbyn diwedd cyfnod atal byr cenedlaethol Llywodraeth Cymru, bydd Sir Conwy wedi bod dan gyfyngiadau ers bron i chwe wythnos.
“Dyna pam fy mod wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mynediad teg at gymorth ariannol ar gyfer busnesau ledled Aberconwy. Mae caniatau cyllid ychwanegol ar gyfer ardaloedd dan gyfyngiadau ar sail y cyntaf i’r felin yn unig yn golygu bod y cyfan yn troi’n ras flêr ac mae’n sarhad i bob busnes sydd wedi’u heffeithio.
“Rwyf hefyd wedi annog Gweinidog yr Economi i adolygu’r penderfyniad i ddeddfu terfyn gwerth ardrethol o £51,000. Byddai newid y terfyn hwn yn galluogi i nifer o fusnesau lletygarwch gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddal ati a chynnal swyddi.”
DIWEDD