Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ffigurau cyflwyno brechlyn camarweiniol yn cynyddu gorbryder ymhlith pobl agored i niwed

  • Tweet
Friday, 22 January, 2021
Daniel Schludi on Unsplash

Heddiw (22 Ionawr), soniodd Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders AS – am ei braw wrth glywed mai dim ond chwarter o bobl dros 80 oed yng Nghymru oedd wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn y Coronafeirws.

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos bod 43,879 o ddosau wedi’u rhoi - sef 23.9% o’r grŵp blaenoriaeth hwn – ar gyfer brechlyn Covid-19. Mae Mrs Finch-Saunders yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i roi esboniad brys o’r sylwadau a wnaeth yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, pan hawliodd eu bod wedi llwyddo i frechu mwyafrif y boblogaeth dros 80 oed. Ddydd Mercher, mewn cwestiwn ir Gweinidog Iechyd Meddwl, galwodd Janet ar y weinyddiaeth i lynu at ei hamserlenni brechu gwreiddiol fel ffordd o fynd i’r afael ag iechyd meddwl gwael ymysg trigolion hŷn. Mewn ymdrech i wynebu’r cynnydd mewn gorbryder ar lefel leol, mae’r Aelod hefyd wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynyddu ymdrechion i gyfathrebu â thrigolion am gyflwyno’r brechlyn.

Wrth gyfeirio at y ffigurau pryderus, dywedodd Janet:

“Ers dyddiau cynnar y pandemig gwyddom fod pobl 70 oed neu hŷn mewn mwy o berygl o COVID-19, waeth pa gyflyrau meddygol sydd ganddyn nhw. Mae’n hanfodol bod y grŵp agored i niwed hwn yn cael eu blaenoriaethu ar frys, gyda’r gwaith o gyflwyno brechlyn Covid yn cael ei gynnal yn gyflym.

“Mae hyn unwaith eto yn tynnu sylw at bwysigrwydd penodi unigolyn sy’n unswydd gyfrifol am gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru.

“Mae’r gorbryder a’r ofn sy’n cael eu teimlo gan lawer o unigolion yn y categori oedran hwn, yn fy etholaeth yn Aberconwy a thu hwnt, yn amlwg ac rwyf wedi dweud ers tro byd mai proses frechu gyflym yw ein harf unigol mwyaf i roi sicrwydd i’n hetholwyr mwyaf bregus.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Yn sesiwn lawn y Senedd ddydd Mawrth, mewn ymateb i Andrew RT Davies, honnodd Gweinidog Iechyd Llafur ei fod ef ar ddeall bod mwyafrif ein poblogaeth dros 80 oed wedi eu brechu.
  • Ddydd Mercher, cododd Janet fater iechyd meddwl a chyflwyno’r brechlyn Coronafeirws gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwestiwn hwn yma.
  • Ddoe, galwodd Janet ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynyddu ei ymdrechion i gyfathrebu â thrigolion am gyflwyno’r brechlyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr alwad honno yma.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud ei fod wedi blaenoriaethu dosbarthiad brechlynnau i’r practisau a oedd â’r nifer uchaf o gleifion dros 80 oed a chleifion mewn cartrefi gofal i ddechrau. Mae pob practis meddyg teulu yn y gogledd – 98 ohonynt i gyd – nawr yn rhan o’r rhaglen frechu. Yn ôl diweddariad diweddar, mae’r rhan fwyaf o bractisau yn yr ardal wedi dechrau gweinyddu’r brechlynnau a bydd y gweddill yn dilyn yn y dyddiau nesaf.

Llun: Daniel Schludi ar Unsplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree