Heddiw (10 Chwefror), cynhaliodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – y bwrdd crwn digidol cyntaf yn ei chyfres barhaus, sy’n edrych ar lunio blaengynllun cadarnhaol ar gyfer y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.
Roedd fforwm rhithiol heddiw, a oedd yn edrych ar effaith pandemig y Coronafeirws ar westai lleol, yn cynnwys anerchiadau arbennig gan Berin Jones (Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno) a Jim Jones (Cyfarwyddwr Twristiaeth Go North Wales.) Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd yr angen am fwy o fanylion ar gynllun ailagor a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio manteisio ar gynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r gyfres amrywiol iawn hon, bydd Janet yn cynnal fforymau gyda chynrychiolwyr o barciau twristiaeth, lletai gwely a brecwast, bwytai a chaffis, tafarnau a bariau, busnesau bach a manwerthwyr yn Aberconwy. Yn ystod y fforwm nesaf, bydd cynrychiolwyr y sector llety hunanddarpar yn clywed anerchiadau arbennig gan Barbara Griffiths (North Wales Holiday Cottages) a Berin Jones.
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, meddai Janet:
“Roedd yr angen am y fforwm hwn yn amlwg – mae tua 31% o swyddi yn dal mewn perygl ledled ardal Cyngor Bwrdeistref Conwy a’n hardal ni sydd â’r ganran uchaf yn y Gogledd o gyflogwyr sy’n ddibynnol ar y sector mewn perygl hwn am eu hincwm
“Gyda hyn mewn golwg, roedd y sesiwn gyntaf, mewn cyfres amrywiol iawn o ddigwyddiadau rhithiol sy’n cwmpasu holl elfennau’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch, yn gam cyntaf hanfodol a chadarnhaol tuag adferiad economaidd Aberconwy. Mae’n glir bod y dyhead lleol i lwyddo yn dal i fod yn gryf – mae’n rhaid i bolisi geisio ailadrodd hyn.
“Wrth gwrs, mae yna nifer o gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i gefnogi twristiaeth ar hyn o bryd. Y prynhawn yma, byddaf yn gofyn i’r Gweinidog Cyllid weithio gyda’i chydweithwyr ac awdurdodau lleol i ddiystyru costau fel trwyddedau parcio, trwyddedau priodas ac yfed.
“Mynegodd mynychwyr fforwm heddiw yn glir hefyd y dylai llunwyr penderfyniadau ym Mae Caerdydd geisio rhoi sicrwydd yn syth i’r sector drwy roi’r gorau i’r camsyniad bod y system haenau yn gynllun adfer. Yn hytrach, mae’r sector angen trywydd sy’n parchu’n dibyniaeth ar ymwelwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
“Mae angen mwy o sicrwydd, ac mae busnesau lleol angen gwybod a allan nhw agor erbyn y Pasg er mwyn dechrau cynllunio recriwtio staff, trefnu cyflenwadau, a derbyn archebion. Does dim modd rhagweld y dyfodol drwy belen risial, ond bydd cydweithio â’r diwydiant yn sicrhau nad ydynt yn cael eu hanwybyddu.
“Mae cyfarfod cynhyrchiol heddiw wedi arwain at gamau gweithredu pendant y byddaf yn ceisio eu rhoi ar waith. Wrth gydnabod y llwyddiant hwn, rwy nawr yn edrych ymlaen at y sesiynau nesaf, a fydd yn cynnwys anerchiad arbennig gan arbenigwyr. Rwy’n annog perchnogion busnes lleol i fynychu’r digwyddiad penodol hwn.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Dyma amserlen sesiynau fforwm Aberconwy’r dyfodol:
-
- Fforwm Gwestywyr: 9:30 – 11:00 am 10/02/2021
- Fforwm Llety Hunanddarpar: 9:30 – 11:00 am 17/02/2021
- Fforwm Parciau Twristiaeth: 10:30 am -12:00 pm 20/02/2021
- Fforwm Tafarnau, Bariau a Bwytai: 9:30 – 11:00 am 24/02/2021
- Fforwm Tai Llety a Gwely a Brecwast: 9:30 – 11:00 am 03/03/2021
- Fforwm Busnesau Bach a Manwerthu: I’w gadarnhau
-
- Bydd Janet yn holi Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfarfod llawn rhithiol y prynhawn yma. Gallwch ei wylio yn fyw ar www.senedd.tv
Llun: Janet Finch-Saunders AS