Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Finch-Saunders yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd Afon Bach

  • Tweet
Wednesday, 24 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Fel rhan o ymgyrch hir sy’n cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i etholwyr am y camau a gymerwyd ar ôl cyhoeddi adroddiad y llynedd ar lifogydd, dywedodd Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy -: 

“Y llynedd, roedd pryder cyffredinol y byddai cynllun amddiffyn Afon Bach yn aneffeithiol i raddau helaeth oherwydd yr holl ddŵr a welwyd yn dilyn Storm Ciara. Adroddwyd am hyn yn fy adroddiad ar lifogydd yn 2020, ac mae’n hollbwysig nodi bod yr adroddiad yn gofyn i'r awdurdod lleol wneud sawl peth. 

“Rydw i'n falch iawn fy mod wedi cael gwybod bod adolygiad o drefn arolygu a gwaith rheoli cwrs dŵr Afon Bach wedi'i gynnal yn syth ar ôl stormydd mis Chwefror, a bod argymhellion yr adolygiad bellach wedi'u gweithredu gan y swyddogion perthnasol. 

“Rydw i'n gobeithio y bydd y cynnydd pendant hwn yn cynnig rhywfaint o sicrwydd i drigolion lleol, sicrwydd y mae mawr ei angen. Yn gadarnhaol, ac wrth edrych i'r dyfodol, mae swyddogion y Cyngor wrthi ar hyn o bryd hefyd yn cynnal adolygiad o gapasiti'r Afon yn is i lawr, ar y cyd â'r astudiaeth leol ar reoli llifogydd yn naturiol. 

“Yn yr un modd, ac er bod effeithiolrwydd sgriniau malurion yn cael ei adolygu ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy, yn ystod rhybuddion tywydd melyn ac ambr diweddar, mae cloddiwr mecanyddol wedi bod wrth gefn i ymdrin ag unrhyw rwystrau posibl a allai ddigwydd.   

“Wrth gydnabod bod rhai amheuon yn parhau ynglŷn â'r amddiffyniad hwn, byddaf yn parhau i ohebu â'r Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau bod y pryderon hyn yn cael y sylw priodol. Serch hynny, mae hwn yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir a hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am hynny.” 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Dywed CBSC hefyd fod tirfeddianwyr mannau problemus hysbys ar hyd Afon Bach wedi cael gohebiaeth ym mis Chwefror a mis Gorffennaf 2020 yn eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â glannau'r afon wrth glirio'r cwrs dŵr o unrhyw falurion sydd wedi cwympo i mewn. Cynhaliwyd archwiliadau yn yr ardal hon cyn yr holl rybuddion tywydd diweddar er mwyn cadarnhau nad oedd unrhyw rwystrau'n bresennol.  
  • O ran yr adolygiad ar effeithiolrwydd gweithredol sgrin malurion Caer Felin – a phob sgrin o dan gyfrifoldeb Cyngor Conwy – pe bai angen unrhyw addasiadau, bydd achos cyfalaf yn cael ei gyflwyno i wneud gwaith addasu. Mae'r adolygiad yn dilyn canllawiau CIRIA sydd newydd eu cyhoeddi. 
  • Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei ystyried hefyd yn nalgylchoedd uchaf Cae Person ac Afon Bach. Dywed CBSC y bydd unrhyw ymyriadau'n dibynnu ar sicrhau bod cyllid cyfalaf ar gael. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf gan Janet ar brosiectau tebyg ar gyfer rheoli yn naturiol drwy glicio yma.  

Llun: Janet Finch-Saunders AS

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree