Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Finch-Saunders yn nodi wythnos Mind Your Head drwy alwa am ffordd well o gyfeirio pobl at gymorth

  • Tweet
Monday, 15 February, 2021
Scott Goodwill on Unsplash

Gan nodi pedwaredd wythnos flynyddol Mind Your Head y Sefydliad Diogelwch Fferm, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso ar y Gweinidog i gynnal adolygiad o wasanaethau gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd yr ymdrechion i gyfeirio unigolion at y llu o rwydweithiau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael.

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:  

“A all y Gweinidog egluro pa gamau y mae wedi'u cymryd er mwyn adolygu effeithiolrwydd prosesau cyfeirio Llywodraeth Cymru at rwydweithiau cymorth iechyd meddwl ar gyfer ein cymunedau gwledig, ac egluro pa mor rheolaidd y bydd y dull hwn yn cael ei adolygu wrth symud ymlaen?” 

Mae tua 88% o ffermwyr ifanc yn credu bellach mai iechyd meddwl gwael yw'r broblem gudd fwyaf sy'n wynebu ffermwyr heddiw, cynnydd o 82% yn 2018. Daw'r ffigurau hyn o arolwg diweddar gan yr elusen Yellow Wellies, a holodd 450 o ffermwyr dan 40 oed. 

Wrth bwysleisio'r angen am ymrwymiad Gweinidogol, dywedodd Janet:  

“Mae effaith drawiadol y pandemig ar ein cymuned ffermio leol wedi taflu goleuni unwaith eto ar y sefyllfa ansicr y mae llawer o ffermwyr yn ei hwynebu, gan fod unigedd a phwysau ariannol hirdymor wedi'u cymhlethu gan ffactorau allanol sydyn na ellir eu rheoli.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod cymunedau gwledig Aberconwy wedi cydnabod effaith niweidiol iechyd meddwl gwael. Maen nhw wedi ymateb drwy gydweithio er mwyn helpu i gychwyn cynlluniau cymorth gwych, fel llinell gymorth Tir Dewi ac wythnos ymwybyddiaeth flynyddol Mind Your Head y Sefydliad Diogelwch Fferm. 

“Gydag 89% o ffermwyr ifanc yn credu y bydd siarad am iechyd meddwl yn y byd ffermio yn cael gwared ag unrhyw stigma sy'n gysylltiedig ag ef, mae’n gwbl hanfodol bellach bod yr holl wasanaethau gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gweithio'n effeithlon iawn wrth gyfeirio unigolion at y cymorth sydd ar gael. Yn yr achos hwn, bydd gwybodaeth yn bwerus iawn. 

“Mae'n rhaid gwneud mwy i gefnogi'r gweithwyr fferm a'r gweithwyr amaethyddol sydd gennym. Dyna pam rydw i wedi galw ar y Gweinidog i gynnal adolygiad brys o effeithiolrwydd y dulliau cyfeirio presennol, fel y gall y rhai sydd â'r grym i gynorthwyo newid y broses yn gyflym os oes angen.” 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae Tir Dewi yn cynnig cyfrinachedd llwyr ac mae eu llinell ffôn ar gael ar draws Bwrdeistref Sirol Conwy. Gall eu gwirfoddolwyr hyfforddedig eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau partner a all gynnig cymorth a chefnogaeth benodol. Ffoniwch y llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 121 47 22 neu e-bostiwch mail@tirdewi.co.uk. Mae'r rhif ar gael rhwng 7am a 10pm, bob dydd.
  • Mewn mannau eraill, gallwch gysylltu â Farming Help yn rhad ac am ddim ar 03000 111999 hefyd neu fynd i www.farminghelp.co.uk i ddysgu mwy. Mae'r llinell gymorth, a weithredir gan y Farming Community Network, ar agor rhwng 7am a 11pm, 365 diwrnod y flwyddyn. 

 

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree