Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

'Gall Cronfa Sbarduno ailgynnau economi'r Gogledd'

  • Tweet
Wednesday, 24 June, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders MS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – yn cefnogi galwadau arweinwyr busnes y Gogledd heddiw (24 Mehefin) i greu cronfa sbarduno gwerth £700,000 er mwyn helpu i ailgynnau economi'r rhanbarth.

Fel rhan o'r gronfa, byddai gweithwyr llawrydd lleol, pobl hunangyflogedig a microfusnesau yn cydweithio i ddatblygu a chynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd. Byddai’n helpu i gyflymu buddsoddiadau cyfalaf mawr newydd yn y Gogledd hefyd.

Yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar COVID-19 a'r economi, pwysodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i ystyried:

  • Sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol COVID er mwyn darparu cymorth economaidd wedi’i dargedu i'r rhanbarthau hynny sydd ei angen fwyaf.
  • Ategu'r gronfa hon â Pharthau Busnes Heb Ardrethi lle byddai pob busnes yn cael ei eithrio rhag talu ardrethi busnes am hyd at dair blynedd.
  • Diwygio'r Gronfa Cadernid Economaidd fel bod busnesau sy'n parhau i ddisgyn drwy'r rhwyd yn gallu cyflwyno cais am gymorth yn ôl disgresiwn.

Wrth siarad yn dilyn ei chyfraniad i'r cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:

“Mae pandemig COVID-19 wedi taro Aberconwy, fy etholaeth, o bob cwr. Gyda chyfran uwch o weithwyr yn gweithio mewn diwydiannau a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau symud, daeth astudiaeth ddiweddar i'r casgliad mai Conwy yw'r sir sy’n wynebu colli’r nifer mwyaf o swyddi yng Nghymru gyfan.

“Er gwaethaf fy llythyrau a'm cyfarfodydd niferus gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, rwy'n siomedig bod gweinyddiaeth Mark Drakeford wedi gwrthod gweithredu ar fy nghynnig i lunio strategaeth wedi'i theilwra, er mwyn helpu'r rhanbarthau hynny sy'n dioddef waethaf.

“Unwaith eto, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y dull synhwyrol hwn. Byddai'r syniad o sefydlu Cronfa Sbarduno yn fan cychwyn da, er mwyn annog cydweithredu rhwng gweithwyr llawrydd lleol, pobl hunangyflogedig a microfusnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

“Ni allwn adael i'r pandemig Coronafeirws adael y rhanbarth a'i fusnesau ar eu gliniau. Mae angen ymateb arloesol ac uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru er mwyn adfer hyder yn economi'r Gogledd.

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree