Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gallai etholwyr Aberconwy fod yn gymwys am fand eang cyflymach o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol

  • Tweet
Wednesday, 13 January, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (13 Chwefror), croesawodd Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - y newyddion y bydd BT yn ysgrifennu at oddeutu 375 cartref neu fusnes ledled yr etholaeth, i egluro y gallant fod yn gymwys i gael cysylltiad band eang cyflymach o dan Rwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol newydd.

Ers 20 Mawrth 2020, mae pob cartref a busnes yn Aberconwy wedi cael hawl cyfreithiol i ofyn i BT ddarparu band eang ‘addas’ iddynt o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol newydd ar gyfer Band Eang. Diffinnir hyn yn y gyfraith fel gwasanaeth gyda chyflymder lawrlwytho o 10Mbps o leiaf a chyflymder lanlwytho o 1Mbps o leiaf.

Mae Ofcom yn amcangyfrif mai dim ond oddeutu 0.5% o bob eiddo yn y DU (tua 167,000) sy’n methu cael mynediad at fand eang addas, o ystyried y band eang cyflym iawn a’r datrysiadau diwifr sydd ar gael yn eang. Y safleoedd hyn sydd ar ôl sy’n gymwys am y Rhwymedigaeth.

Gan roi ei sylwadau ar y sefyllfa yn Aberconwy, dywedodd Janet:

“Gall cysylltiad band eang dibynadwy wneud cyfraniad pwysig at adfywio’r gymuned, yn enwedig wrth i fwy o’n bywydau symud ar-lein. Dengys ystadegau bod 40% o fusnesau gwledig wedi prynu o leiaf hanner eu nwyddau ar-lein yn 2019, gyda 81% o BBaChau gwledig bellach yn rhedeg  gwefan i gynyddu eu masnach.

“Wrth i weithio gartref ddod yn norm nad oes arwydd ei fod yn dod i ben, rwy’n croesawu’r newyddion bod BT bellach yn ysgrifennu at lawer o’m hetholwyr a sawl busnes lleol i egluro y gallant fod yn gymwys i gael cysylltiad band eang cyflymach o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol newydd.

“Fodd bynnag, fel mae swyddogion diwydiant wedi dweud yn glir yn ein trafodaethau parhaus ar y mater hwn, mae darparu cysylltedd wedi’i uwchraddio i leoliadau anodd eu cyrraedd yn aml yn her peirianneg sifil fawr gyda chostau uchel. Er hyn, rwy’n parhau wedi ymrwymo i ganfod datrysiad sydd o fudd i bawb.

“Gan gadw hyn mewn cof, rwyf wedi dechrau ar y broses o holi Llywodraeth Cymru am y sgyrsiau y maent yn eu cael gyda’r diwydiant a phartneriaid y Llywodraeth i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried yn drylwyr.” 

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Ar hyn o bryd mae BT wrthi’n ysgrifennu’n uniongyrchol at  bob eiddo cymwys i’w hysbysu o’u hawl i wneud cais. Gall unrhyw un wirio eu cymhwyster a chael rhagor o wybodaeth yn www.bt.com/uso 
  • I bob eiddo sy’n gymwys am Rwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol, mae’n ofynnol i BT uwchraddio eu cysylltedd, ar gais, am ddim i’r cwsmer os yw’r gwaith angenrheidiol yn costio £3,400 neu lai. Os yw costau'r eiddo yn parhau dros £3,400, gall y cwsmer ddewis talu’r costau llawn dros ben hyn i ddechrau ar y gwaith angenrheidiol. Mae’r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i’r defnyddwyr dalu’r costau dros ben hyn.

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree