Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi croesawu casgliadau papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan dîm o Is-adran Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Public Health England. Daeth i'r casgliad bod blaenoriaethu mynediad at deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gamau pwysig mewn unrhyw gynllun i leihau teithiau ceir a'r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â llygredd aer i bawb.
Mae'r papur, dan y teitl ‘Assessing the exposure to air pollution during transport in urban areas - Evidence review’ wedi'i gyhoeddi gan y Journal of Transport and Health. Roedd yn adolygu astudiaethau a oedd yn mesur crynodiadau llygryddion mewn microamgylcheddau trafnidiaeth drefol ac a gyhoeddwyd rhwng Ionawr 2016 a Gorffennaf 2020.
Yn dilyn cyhoeddi'r papur, mae Janet wedi cyflwyno'r Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol i'r Gweinidog Newid Hinsawdd:
“O ystyried astudiaeth ddiweddar a ganfu y gallai'r cysylltiad y mae beicwyr yn ei gael â gronynnau aer fod dros dair gwaith yn uwch wrth feicio ar lwybr traffig uchel o'i gymharu â beicio ar lwybr di-draffig, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r syniad o wahanu llwybrau?”
Wrth groesawu'r casgliadau, dywedodd Janet:
“Yn ôl amcangyfrifon, mae oddeutu 2,000 o bobl yn marw o flaen eu hamser bob blwyddyn oherwydd ansawdd aer gwael, a chyda phum ardal drefol yng Nghymru yn adrodd lefelau llygredd aer anghyfreithlon a pheryglus yn ystod blynyddoedd diweddar, mae'n rhaid i ni weithio i hwyluso Deddf Aer Glân i Gymru er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a chyrraedd targedau allyriadau carbon y genedl.
“Mae'r astudiaeth newydd bwysig a chydweithredol hon wedi canfod bod y ffordd rydyn ni'n teithio yn effeithio ar y graddau rydyn ni'n dod i gysylltiad â llygredd aer. Bydd hyn yn cael effaith bwysig o ran llywio lle rydyn ni'n gosod lonydd beicio a llwybrau troed, yn ogystal â chyfarwyddo Llywodraeth Cymru i wneud mwy i flaenoriaethu opsiynau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
“O ystyried y canfyddiad bod cerddwyr a beicwyr yn gyffredinol yn dod i gysylltiad â chrynodiadau is o lygredd aer wrth ddefnyddio llwybrau sydd wedi'u gwahanu oddi wrth draffig modur, rydw i wedi gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gellir gwella'r gefnogaeth i adeiladu llwybrau ar wahân.
“Fy ngobaith i fyddai gweld y llwybrau ar wahân hyn yn annog mwy o bobl i fynd ar eu beiciau neu ystyried cerdded i'r gwaith, o gofio ei fod wedi'i brofi eu bod yn lanach ac yn fwy diogel.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Yn ystod cyfarfod o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ddeddf Aer Glân Cymru ddoe, etholwyd Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd, ac etholwyd Janet Finch-Saunders AS a Delyth Jewell AS yn Is-gadeiryddion.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn beicio yn yr etholaeth.