Ar ôl i’r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, gyhoeddi cyfyngiadau ar y Deyrnas Unedig er mwyn arafu lledaeniad COVID-19, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy wedi galw am gymorth cadarnach i fusnesau.
Wrth roi ei sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Ni allai neges y Prif Weinidog fod yn fwy clir: rhaid i ni aros gartref gyda rhai eithriadau prin iawn.
“Rhoddodd y cynnydd a welsom yn nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos bwysau anferth ar wasanaethau lleol y GIG ac ar gadwyni cyflenwi, gan roi twristiaid a phreswylwyr lleol mewn perygl.
“Y brif flaenoriaeth yn awr yw atal y feirws rhag lledu er mwyn gwarchod y GIG a chadw ein pobl yn ddiogel.
“Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd camau’r Prif Weinidog yn helpu i atal lledaeniad y clefyd.
“Rwy’n ymwybodol fod COVID-19 yn cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol, yn cynnwys busnesau yn y sector lletygarwch.
“Rwy’n gwybod y bydd y rheolau’n cael effaith negyddol a bod rhai busnesau ledled y Gogledd yn gwegian dan y pwysau, felly rwyf wrthi’n dal Llywodraeth Cymru i gyfrif fel ei bod yn darparu cymorth ar ffurf grantiau, help gyda threthi busnes a chymorth ariannol arall i liniaru’r perygl i’r amrywiol sectorau.
“Os oes gennych chi fusnes sy’n dioddef effaith negyddol a’ch bod am gael cymorth, mae croeso i chi gysylltu â mi.
“Busnes yw ein bara menyn yma yn Aberconwy, felly rwyf wrth law i gynnig help llaw er mwyn sicrhau bod y Wladwriaeth yn eich helpu chi.
“Yn fy marn i, dylai’r Llywodraeth fod yn ymyrryd yn gadarn er mwyn helpu mentrau busnes i lywio’u ffordd drwy’r argyfwng byd-eang hwn”.
Nodiadau:
Y Prif Weinidog yn annerch y genedl ar coronafeirws: 23 Mawrth 2020